Dod yn wirfoddolwr
Os ydych chi eisiau sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ac eisiau gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae dod yn wirfoddolwr gyda Llais yn ffordd wych o gymryd rhan o bell.
Rydyn ni eisiau cyrraedd cymaint o bobl â phosib ac mae bod yn wirfoddolwr yn sicrhau eich bod chi’n clywed am y gwaith rydyn ni’n ei wneud ac yn gwybod am yr holl gyfleoedd i ddweud eich dweud am y pethau sy’n bwysig i chi.
Byddwch chi'n:
- derbyn ein cylchlythyr rheolaidd sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith presennol
- cael cyswllt wrthom ni am unrhyw ymgynghoriadau sydd ar y gweill er mwyn i chi allu rhoi eich barn
- gallu dylanwadu ar ein blaenoriaethau gwaith yn y dyfodol yn ein cynllun blynyddol
- gallu rhannu eich profiadau negyddol a chadarnhaol
- helpu i roi gwybod i fwy o bobl am Llais a sut i gyfrannu at wasanaethau gwell
Gwirfoddolwch gyda ni

Gwirfoddolwch gyda ni
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i annog eraill i ddweud eu dweud am wasanaethau’r GIG a Gofal Cymdeithasol a bod yn ddolen gyswllt bwysig rhwng y rhai sy’n cynllunio a darparu gwasanaethau, y rhai sy’n eu harolygu a’u rheoleiddio a’r rhai sy’n ei ddefnyddio.