Newyddion

Llais yn ymateb i adolygiad annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o strategaeth, llywodraethu, atebolrwydd, arweinyddiaeth a diwylliant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw.

Wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae'r adolygiad yn dod i'r casgliad nad oes gan y bwrdd iechyd yr amodau sefydliadol sydd eu hangen ar hyn o bryd i gyflawni a chynnal gwelliant. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion fel arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant sefydliadol, mae Llais yn dweud mai'r cwestiwn pwysicaf yw beth mae'r canfyddiadau'n ei olygu i'r bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau'r GIG ledled Gogledd Cymru ac a ydynt yn arwain at welliannau ystyrlon mewn gofal.  

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, cyfarwyddwr rhanbarthol Llais Gogledd Cymru:  

"Mae pobl ledled Gogledd Cymru yn haeddu gofal iechyd sy'n sefydlog, yn ddibynadwy ac yno pan fydd ei angen arnynt.  

"I lawer o bobl, nid yw'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd yn rhywbeth y maent yn darllen amdanynt mewn adroddiadau. Maent yn brofiadau sy'n effeithio ar eu bywydau dyddiol. Mae pobl yn dweud wrthym am arosiadau hir am apwyntiadau a thriniaeth, anawsterau cael y gofal sydd ei angen arnynt, cyfathrebu gwael a'r pryder a'r ansicrwydd a all ddod gyda pheidio â gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.  

"Mae'r adolygiad hwn yn rhoi darlun difrifol o'r heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd. Er y gall arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant sefydliadol swnio fel problemau y tu ôl i'r llen, maent yn bwysig oherwydd eu bod yn cael effaith uniongyrchol ar brofiadau pobl o ofal.  

"Mae pobl ledled Gogledd Cymru wedi bod yn aros am amser hir i weld gwelliannau ystyrlon yn y pethau sydd bwysicaf iddynt. Byddant am wybod, y tro hwn, bod canfyddiadau'r adolygiad hwn – a'r camau y mae Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi addo eu cymryd – yn arwain at newidiadau gwirioneddol a pharhaol y gallant eu gweld a'u teimlo yn y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.  

"Mae'r adolygiad yn nodi dechrau cam pwysig i'r bwrdd iechyd, ond ni fydd cydnabod y problemau ar ei ben ei hun yn adfer hyder. Daw hynny drwy welliant parhaus yn y profiadau y mae pobl yn eu cael – gan gynnwys gofal mwy diogel, gwell cyfathrebu, a gwasanaethau y gallant ddibynnu arnynt."  

"Byddwn yn parhau i wrando ar bobl, sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, a gweithio i sicrhau bod eu profiadau'n helpu i lunio'r ymateb i'r adolygiad hwn a'r camau gweithredu sy'n dilyn."