Rydym yn rhoi llais cryf i bobl yng Nghymru wrth lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Amdanom ni
Gwneud cwyn

Dweud eich dweud

Ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol yng Nghymru? Gallai hynny gynnwys ymweld â meddyg teulu, ysbyty, fferyllfa neu ddeintydd, derbyn gofal gartref, neu fyw mewn cartref gofal.

Beth bynnag yw eich profiad, rydym am glywed amdano.

Cymryd rhan

Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan yn ein gwaith, y gorau oll fydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – ac mae nifer o ffyrdd o ymuno â ni mewn ffordd sy'n gweddu i chi.

Yr adroddiadau a'r ymchwil diweddaraf

Sbotolau ar ddefnyddior Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Mae gallu defnyddio’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na dewis; gall effeithio ar urddas, diogelwch, a chanlyniadau i bobl. Ond mae mynediad i wasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau’n anghyson ledled y rhanbarthau.

Darllenwch ein hadroddiad diweddaraf ar sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Darganfyddwch beth sy'n digwydd yn eich ardal chi

Dewch o hyd i gyngor, cefnogaeth, digwyddiadau a mwy yn eich ardal chi

  • Caerdydd a’r Fro

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol Caerdydd, Bro Morgannwg

  • Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

  • Cwm Taf Morgannwg

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful

  • Gogledd Cymru

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Dinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

  • Gorllewin Cymru

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro

  • Gwent

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent

  • Powys

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Powys