Dywedwch eich dweud

Helpwch i lunio gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Gall eich profiadau, eich barn a'ch syniadau helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ledled Cymru. P'un a ydych wedi defnyddio gwasanaethau'r GIG, wedi derbyn cymorth gofal cymdeithasol, wedi gofalu am aelod o'r teulu, neu eisiau rhannu eich barn ar fater sy'n bwysig i chi, rydym am glywed gennych. Rydym am glywed gan bobl ledled Cymru, yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed bob amser. Drwy rannu eich profiadau a'ch barn, gallwch helpu i ddylanwadu ar welliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod Llais yn gorff statudol annibynnol, rhaid i sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gofal wrando ar yr adborth a'r profiadau rydym yn eu rhannu ar ran pobl a chymunedau.

Ffyrdd o leisio eich barn

Mae llawer o ffyrdd cyflym a hawdd i gymryd rhan.

Rhannwch eich stori

Dywedwch wrthym am eich profiad o ddefnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol yng Nghymru, boed yn gadarnhaol, yn negyddol neu'n rhywbeth yn y canol.

Mae eich adborth yn ein helpu i lunio darlun o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, fel y gallwn ddylanwadu ar welliannau ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhannwch eich stori

Cymerwch ran mewn arolwg

Rydym yn gofyn yn rheolaidd am farn ar wasanaethau, materion a phynciau penodol sy'n effeithio ar bobl ledled Cymru. Gweler pa arolygon ac ymgynghoriadau sydd ar agor ar hyn o bryd a rhowch eich barn ar y materion sy'n bwysig i chi.

Ymunwch â ni mewn digwyddiad

Rydym yn cynnal digwyddiadau ac yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru yn rheolaidd. Ymunwch â ni mewn digwyddiad gerllaw a siaradwch ag aelod o'n tîm wyneb yn wyneb.

Edrychwch ar ein digwyddiadau sydd ar y gweill

Angen cyngor neu gymorth?

Os ydych eisiau cyngor, cymorth gyda phryder neu gymorth i wneud cwyn arnoch, neu os hoffech siarad â rhywun am eich profiad, rydym yma i helpu.

Cysylltwch â ni

Gwneud gwahaniaeth

Mae popeth rydym ni'n ei wneud yn dechrau gyda'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Drwy rannu eich stori a'ch barn, gallwch ein helpu i nodi materion, dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chefnogi gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Sut gallwn ni eich cefnogi i wneud cwyn

Os oes angen i chi godi pryder am wasanaeth GIG neu ofal cymdeithasol, gallwch siarad â ni. Bydd ein staff eirioli cwynion ymroddedig, hyfforddedig yn darparu'r cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim y mae gennych hawl iddo.

Cwblhewch ein harolwg cenedlaethol

Cymerwch bum munud i rannu eich stori a helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ledled Cymru.

Gadewch i ni wybod sut rydym yn gwneud

Rhannwch eich adborth ar waith Llais