Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Dod yn wirfoddolwr

Hoffech chi helpu i benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Mae dod yn wirfoddolwr Llais yn ffordd wych o wneud yn siŵr bod eich llais chi a lleisiau eich cymuned yn cael eu clywed gan y rheini sy’n penderfynu ac yn rheoleiddio sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu.

Mae angen mwy o leisiau, i gael mwy o effaith

Beth bynnag fo’ch oedran, eich cefndir, ffydd neu ryw, rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau – da neu ddrwg. Mae angen mwy o leisiau ym mhob cymuned, o bob cwr o Gymru, er mwyn cael mwy o effaith o ran llunio gwasanaethau sy’n adlewyrchu holl anghenion ein cymdeithas.

Fel gwirfoddolwr, byddwch chi’n:

  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr 
  • Cael hyfforddiant am ddim, cefnogaeth a datblygu eich sgiliau 
  • Dylanwadu ar flaenoriaethau gwaith y dyfodol yn y cynllun blynyddol
  • A rhoi gwybod i fwy o bobl am Llais a chyfrannu at wasanaethau gwell
Video

Gwirfoddoli gyda ni

NODWEDDOL

Gwirfoddoli gyda ni

Rydyn ni’n chwilio am bobl o bob cymuned ledled Cymru i annog eraill i godi eu llais am wasanaethau’r GIG a Gofal Cymdeithasol. Helpwch i roi llais i’ch cymuned a dod yn gyswllt rhwng y rheini sy’n penderfynu ac yn rheoleiddio’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol a’r rheini sy’n eu defnyddio.

Codwch eich Llais