Amdanom ni

Llais, y corff statudol annibynnol sy'n rhoi llais cryfach i bobl yng Nghymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ydym ni.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Rydym yn credu mewn Cymru iachach lle mae pobl yn cael y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt yn y ffordd sy'n gweithio orau iddynt.

Rydym yn gwrando ar brofiadau pobl, da a drwg, er mwyn deall beth sy'n gweithio'n dda a lle gellid gwella gwasanaethau, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydym yn defnyddio'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym i ddylanwadu ar benderfyniadau am iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru a helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl. Rydym yn gweithio'n arbennig o galed i glywed gan bobl nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed.

Fel corff statudol annibynnol, mae gennym rôl gyfreithiol i gynrychioli barn a phrofiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Mae gennym tua 100 o staff a rhwydwaith cynyddol o wirfoddolwyr sy'n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn helpu i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed gan y rhai sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol i helpu i lunio gwasanaethau a gyrru gwelliannau yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Sut gallwn ni helpu

Os oes gennych chi bryderon am eich gofal iechyd neu ofal cymdeithasol, rydym ni yma i wrando a'ch helpu i ddeall eich opsiynau.

Gallwn ni:

  • ddarparu cymorth eiriolaeth ar gyfer cwynion
  • eich helpu i godi pryderon ynghylch gwasanaethau
  • esbonio'r cymorth sydd ar gael i chi
  • eich cyfeirio at sefydliadau eraill lle bo'n briodol

Os aeth rhywbeth o'i le gyda'ch gofal, nid oes rhaid i chi ddelio â hynny ar eich pen eich hun.

Dysgwch fwy am Llais

Dysgwch fwy am sut rydym yn cynrychioli lleisiau pobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwneud gwahaniaeth

Mae popeth rydyn ni'n ei wneud yn dechrau gyda'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Drwy rannu eich stori a'ch barn, gallwch ein helpu i nodi materion, dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chefnogi gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn pennu ein strategaeth ac yn darparu craffu, goruchwyliaeth a llywodraethu ar draws ein holl waith.

Darganfyddwch beth sy'n digwydd yn eich ardal

Dewch o hyd i gyngor, cefnogaeth, digwyddiadau a mwy yn eich ardal

  • Caerdydd a’r Fro

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol Caerdydd, Bro Morgannwg

  • Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

  • Cwm Taf Morgannwg

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful

  • Gogledd Cymru

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Dinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

  • Gorllewin Cymru

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro

  • Gwent

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent

  • Powys

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Powys