Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llais Powys - Crynodeb Gweithredol - Ymgysylltu Aberhonddu
Yn ystod mis Ebrill 2024, bu Llais Powys yn ymgysylltu â chymuned Aberhonddu a’r cyffiniau, i ddeall profiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu megis arolygon, ymuno â grwpiau a sefydliadau amrywiol ar gyfer trafodaeth wyneb yn wyneb, ymweld â safleoedd lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal a siarad â phobl mewn digwyddiadau cymunedol. Fe wnaethom hefyd gynnal bore coffi am ddim i bobl ddod draw i sgwrsio â ni. Buom yn siarad â phobl o wahanol oedrannau a chyda gwahanol anghenion iechyd a gofal.