Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Ymateb Llais i ymgynghoriad cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Gofynnodd ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sefydliadau am adborth ar newidiadau i'r cod ymarfer yn dilyn penderfyniad gan y Goruchaf Lys a eglurhaodd ddiffiniadau o ryw cyfreithiol mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys goblygiadau pwysig ar gyfer sut mae sefydliadau'n diffinio ac yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â rhyw a hunaniaeth rhywedd. Dyma ein hymateb.
Llais Powys - Adroddiad Ymgysylltu - Y Gelli Gandryll a Thalgarth
Yn ystod mis Tachwedd 2024, cynhaliodd Llais ymgysylltiad cymunedol â ffocws yn ardal Y Gelli Gandryll a Thalgarth, yr wythfed ardal ym Mhowys i gael ei chynnwys yn ein rhaglen leol. Mae'r fenter hon yn rhan o'n hymagwedd 13 ardal sy'n cyd-fynd â strwythurau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Y nod oedd casglu profiadau byw o iechyd a gofal cymdeithasol gan bobl yn y trefi gwledig a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys gwasanaethau a gyrchwyd dros y ffin yn Lloegr.