Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Gofal iechyd trawsffiniol: yr heriau allweddol i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n cael gofal y GIG yn Lloegr
Ym mis Ionawr 2025 fe ddarparom ni dystiolaeth o'r hyn yr oeddem yn ei glywed am ofal iechyd trawsffiniol. Ychydig dros
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2025/26
Rydym yn falch o gyflwyno ein hail Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb, sy’n cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.
Fel llais annibynnol Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wrando ar bobl ar draws pob cymuned a sicrhau bod eu profiadau’n llywio gofal gwell a chanlyniadau tecach.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i herio anghydraddoldeb, gwahaniaethu a rhagfarn ac i gefnogi uchelgais Cymru i ddod yn genedl wrth-hiliol.
Diolch i’r cyhoedd, ein staff a’r holl bartneriaid a’n helpodd i wneud cynnydd eleni.
Rhanbarth Llais Gwent - Uwchgynhadledd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Daeth rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent ynghyd i drafod oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a'u heffaith ar gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff. Gyda'n gilydd, fe wnaethon ni archwilio sut olwg a theimlad yw ar ryddhau cleifion wedi'i ohirio ar hyn o bryd i'r bobl dan sylw, a pha welliannau y gellid eu gwneud ar draws y system i gyflawni canlyniadau gwell. Rhannodd y cyfranogwyr eu profiadau trwy sgyrsiau, fideos, adborth a thrafodaethau agored, gan ein helpu
i greu darlun cliriach o sut beth yw rhyddhau o'r ysbyty o ddydd i ddydd.
Mae Llais yn ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda cyn penderfyniadau ar y CSP
Mae Llais wedi ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda cyn y cyfarfod cyhoeddus eithriadol i drafod y Cynllun Gwasanaethau Clinigol (CSP).