Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Cynllun Blynyddol Llais 2026-2027
Wrth i ni ddechrau blwyddyn olaf ein Cynllun Strategol 3 blynedd, mae Llais mewn cyfnod hollbwysig.
Rydym wedi sefydlu ein hunain fel llais annibynnol pobl ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym wedi meithrin perthnasoedd ar draws cymunedau, gwasanaethau a llywodraeth. Rydym wedi dangos y gall profiad bywyd, pan gaiff ei gasglu’n ofalus a’i gyflwyno’n gredadwy, ddylanwadu ar newid.
Eleni, rydym yn wynebu her a chyfle. Bydd Llywodraeth newydd i Gymru yn dod i rym yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026, gan ddod â blaenoriaethau ffres a ffocws newydd ar y materion sydd bwysicaf i gymunedau.
Rhanbarth Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - Gadael yr Ysbyty: Yr Hyn a Ddywedodd Pobl Wrthym
Clywsom gan gleifion, teuluoedd, gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu ledled Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe am eu profiadau o adael yr ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Drwy ein gwaith ymgysylltu, rhannodd pobl yr hyn a’u helpodd i deimlo’n cael eu cefnogi, yn ogystal â’r heriau a wnaeth greu anhawster wrth adael yr ysbyty.