Ymateb Llais i Adolygiad Perfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru
Mae Llais yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Grŵp Cynghori Gweinidogol (MAG) ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru, a chynllun gweithredu manwl Llywodraeth Cymru mewn ymateb.
Rydym yn gweld hyn fel moment pwysig ar gyfer dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae'r dogfennau hyn yn nodi her glir i'r GIG yng Nghymru i symud o uchelgais i gyflawni, rhywbeth y mae pobl ledled Cymru wedi bod yn gofyn amdano.
