Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Gwirfoddoli gyda ni

Byddem wrth ein bodd pe byddech yn dewis gwirfoddoli gyda Llais. Rydyn ni’n dibynnu ar bobl fel chi i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl yn cael eu clywed yng Nghymru.

Sut brofiad yw Gwirfoddoli gyda Llais

Dyma fideo byr sy'n egluro sut beth yw gwirfoddoli gyda Llais

Video

Dyma ychydig o wybodaeth hanfodol am fod yn Wirfoddolwr i Llais:

Llais yw’r corff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gennym dair prif rôl:

Ymgysylltu â chi a gwrando arnoch am eich profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Efallai y byddwch chi’n ein gweld ni allan yn y gymuned, mewn digwyddiadau, mewn sesiynau galw heibio - rydyn ni’n ceisio cwrdd â chi yn y lleoedd sy’n bwysig i roi cyfle i chi ddweud eich dweud.

Cynrychioli eich barn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid iddyn nhw nawr roi gwybod i ni beth maen nhw’n bwriadu ei wneud â’ch adborth. Os na allant weithredu arno, mae angen iddynt ddweud wrthym pam.

Darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion ym mhob rhan o Gymru ar gyfer cwynion am iechyd a gofal cymdeithasol.

*(Gall plant dan 18 sy’n derbyn cymorth gofal cymdeithasol a phobl hyd at 25 sy’n gadael gofal ddefnyddio gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir gan ofal
cymdeithasol).

Mae holl swyddfeydd rhanbarthol Llais yn gysylltiedig â chorff
cenedlaethol o’r enw Llais Cymru.

Rydym yn cwmpasu’r holl wasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol a redir gan y GIG, gan gynnwys rhai a drefnir gan ofal cymdeithasol, a byddwn yn gofyn am farn y cyhoedd ar unrhyw un o’r rhain.

Rydym yn annibynnol gyda’n Bwrdd ein hunain a’n pwerau cyfreithiol ein hunain. Mae ein cynllun gwaith yn seiliedig ar y pryderon a rannwyd gyda ni gan bobl Cymru

Gallwn ni:

  • Fynd i mewn a gweld lleoedd lle darperir gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Godi pryderon gyda sefydliadau eraill, Gweinidogion, neu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau pan fo angen.
  • Mae gennym hefyd ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Er mwyn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, rydym yn ceisio dod o hyd  i ffyrdd o weithio gyda grwpiau a sefydliadau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru.

Rydym yn anelu at:

  • Adeiladu cysylltiadau cryf gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda chymunedau na chlywir eu lleisiau mor aml ag y dylent fod.
  • Ymuno â rhwydweithiau cymunedol i rannu gwybodaeth, ac i ddarganfod beth sy’n bwysig i bobl.
  • Adeiladu cymuned o wirfoddolwyr hyfforddedig a all fod yn llygaid ac yn glust i Llais.

Ein Bwrdd
Mae ein Bwrdd yn gyfrifol am y cynllun gwaith a wnawn bob blwyddyn, sy’n seiliedig ar adborth lleol gan y cyhoedd.

Ein Staff
Fel rhan o’ch cyfnod sefydlu, byddwch yn cwrdd â’ch tîm rhanbarthol a byddant yn eich helpu i ddeall sut rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd.

Delwedd
Llais Volunteers

Rolau gwirfoddolwyr

Mae gennym wirfoddolwyr ar draws pob rhanbarth o Gymru. 

Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan am nifer o resymau. Mae rhai eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill; mae rhai eisiau datblygu sgiliau newydd ac mae rhai eisiau cwrdd â phobl newydd a chael hwyl.

Mae pob person sy’n gwirfoddoli i ni yn bwysig i’n gwaith. Yn Llais mae gennym nifer o rolau gwirfoddol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Casglwr Adborth Ar-lein

Casglu adborth am brofiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u gadael ar-lein.

Gwirfoddowr Ymweld

Byddwch yn cyfarfod â phobl ar-lein neu’n bersonol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ar ymweliadau a drefnwyd ymlaen llaw i ddeall beth maen nhw’n meddwl sy’n gweithio a beth allai fod yn well.

Gwirfoddolwr Ymgysylltu Cymunedol

Byddwch yn ymuno â thîm Llais lleol i gwrdd â phobl ar-lein ac wyneb yn wyneb yn y gymuned, i gasglu eu barn a’u profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwirfoddolwr Cynrychioli

Byddwch yn mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ar ran Llais, gan gyflwyno ein safbwynt, a gwneud nodiadau o’r cyfarfod i adrodd yn ôl ar wybodaeth berthnasol.

Fel gwirfoddolwr efallai y byddwch am ymgymryd â sawl rôl, neu efallai y byddwch yn dewis meysydd lle mae gennych ddiddordeb arbennig. Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar hyn gyda chi.

Delwedd
Vounteering with Llais

Bydd ein Rheolwyr Gweithrediadau Rhanbarthol yn eich cefnogi a’ch arwain wrth wirfoddoli gyda Llais.

Byddwn yn:

  • Eich trin â pharch, meddylgarwch a gwerthfawrogiad.
  • Gwneud yn siŵr bod gennych chi syniad clir o’r hyn sydd angen i chi ei wneud.
  • Rhoi cyflwyniad llawn o wirfoddoli i chi.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am yr hyfforddiant a’r cymorth sydd ar gael. 
  • Ni fyddwn byth yn disgwyl ichi gwblhau tasg nad ydych yn
    gyfforddus â hi.
  • Trefnu i gwrdd â chi’n rheolaidd i edrych ar ffyrdd y gallwn helpu i’ch datblygu chi a’ch sgiliau.
  • Cynnig adborth teg, gonest ac amserol i chi.
  • Eich diweddaru ar sut rydych wedi gwneud gwahaniaeth.

Sefydlu:
Bydd eich Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol yn eich cyflwyno i staff lleol Llais a gwirfoddolwyr y byddwch yn gwirfoddoli gyda nhw ac yn siarad â chi drwy’r llawlyfr. Byddant yn rhoi gwybod i chi am yr holl bolisïau a phrosesau sydd ar waith i’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.

Bydd cyfnod prawf a fydd yn rhoi cyfle i ni i gyd weld sut mae pethau’n gweithio allan.

Dysgu a Datblygu:
Rydym am i chi deimlo’n hapus ac yn hyderus yn eich rôl. Fel gwirfoddolwr Llais, bydd eich Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol yn dod o hyd i hyfforddiant rydych wedi cytuno a fydd yn eich helpu i wirfoddoli gyda ni.

Cefnogaeth:
Gwnewch nodyn o sut aeth pob tasg a gyflawnwyd gennych, beth wnaethoch chi, beth wnaethoch chi ei fwynhau ac a oedd unrhyw faterion wedi codi.

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael cyfarfod adolygu, naill ai wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn, a gallwch gytuno pa mor aml y byddwch yn cyfarfod â’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol. Mae’n gyfle i wirfoddolwyr a staff ddiweddaru ei gilydd, codi materion a chadw mewn cysylltiad am eich gwaith gyda Llais.

Mae Llais yn disgwyl safonau uchel gan ein holl wirfoddolwyr. I wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch rôl, bydd gwirfoddolwyr yn:

  • Trin gwirfoddolwyr Llais, staff ac eraill gyda pharch, meddylgarwch, a gwerthfawrogiad bob amser.
  • Gweithredu mewn ffordd broffesiynol pryd bynnag y byddwch yn cynrychioli Llais.
  • Gweithredu mewn ffordd nad yw’n trin unrhyw un yn annheg nac yn eithrio unrhyw un.
  • Rhoi gwybod i ni cyn belled ymlaen llaw ag y gallwch os na allwch fynychu digwyddiad gyda Llais, neu os nad ydych yn dymuno gwirfoddoli mwyach.
  • Gofynnwch i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol os nad ydych chi yn deall eich rôl yn llawn, beth rydych chi yn gyfrifol amdano, neu os oes angen unrhyw help arall arnoch chi.

Dibynadwyedd ac Ymrwymiad:
Mae’n bwysig eich bod chi yn gallu bod yn ddibynadwy a chadw at y trefniadau rydych chi wedi’u gwneud gyda ni. Os bydd pethau’n newid i chi ac na allwch wirfoddoli, dywedwch wrth eich Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol cyn gynted â phosibl. Os ydych yn bwriadu mynd ar wyliau, rhowch wybod iddynt pan na fyddwch ar gael a phryd y bwriadwch ddychwelyd.

Safonau Ymddygiad mewn Cyfarfodydd:
Mae gennym Bolisi Safonau Ymddygiad sy’n cynnwys y canlynol:

Paratoi am gyfarfod rhithwir

  • Gwirio eich dyddiadur a gwneud yn siŵr bod gennych y gwahoddiad yn eich dyddiadur.
  • Gwisgo yn briodol a chael man gwaith lle mae’r cefndir tu ôl i chi yn broffesiynol. 
  • Meddwyl a oes unrhyw beth a allai beri tramgwydd, fel mygiau slogan neu bosteri.
  • Mewn cyfarfodydd rhithwir, os ydych yn gwybod ymlaen llaw eich bod am godi rhywbeth nad yw ar yr agenda, trafodwch hyn gyda’r Cadeirydd/ arweinydd cyn y cyfarfod rhithwir.
  • Cofio bod y cyfleuster ‘sgwrsio’ ar gael i bawb yn y cyfarfod yn ystod ac ar ôl cyfarfod.

Treuliau:
Rydym eisiau gwneud yn siŵr nad yw gwirfoddolwyr ar eu colled oherwydd gwirfoddoli gyda ni. Byddwn yn talu treuliau parod sy’n digwydd yn uniongyrchol oherwydd eich rôl Llais yn ôl. 

Mae gwirfoddolwyr yn llenwi ffurflenni treuliau - naill ai’n electronig neu ar bapur - a rhaid anfon y rhai hyn erbyn yr 8fed o bob mis. 

Trafodwch gyda’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol yr hyn y gallwch ei hawlio ar gyfer cludiant cyhoedd, neu ddefnyddio eich car eich hun. Cadwch dderbynebau a chofnodion o lle rydych chi wedi bod. Os yn gwirfoddoli tair awr neu fwy mewn un sesiwn, efallai y byddwch yn gallu hawlio am fwyd a diodydd.

Bydd treuliau’n cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc. 

Teithio mewn car:
Os ydych chi’n defnyddio’ch car eich hun ar gyfer gweithgaredd Llais, hyd yn oed wrth deithio i ac o leoliad, rhaid i chi ddweud wrth eich cwmni yswiriant car eich hun.

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn cytuno i dalu am deithiau car i wirfoddolwyr heb unrhyw dâl ychwanegol. Mae angen i chi wirio hyn gyda’ch cwmni yswiriant eich hun. Ni fydd eich yswiriant car yn cael ei gwmpasu gan Llais.

Mae gennym Bolisi Cod Ymddygiad sy’n cynnwys y canlynol:

Anrhegion:
Gall rhoi neu dderbyn anrhegion edrych fel ein bod yn trin rhai pobl yn wahanol a gallai effeithio ar yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl am lefel y gefnogaeth y gallwch ei rhoi iddynt. Gofynnwn i wirfoddolwyr beidio â rhoi na derbyn rhoddion personol i neu gan staff neu unrhyw un sy’n derbyn cefnogaeth gan Llais.

Sut rydyn ni’n siarad:
Wrth wirfoddoli i Llais, rydyn ni’n defnyddio arddull arbennig o iaith. Mae ein ‘llais’ yn bwysig i helpu pobl i ddeall pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Mae angen inni fod yn gyson, yn glir, ac yn hawdd i’w deall. P’un a ydych yn siarad ar ran Llais, yn  ysgrifennu e-bost neu lythyr, mae’n bwysig defnyddio ‘tôn llais’ Llais. Bydd eich Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol yn eich helpu gyda hyn.

Beth rydyn ni’n ei wisgo: 
Fel gwirfoddolwr i Llais, rydych chi’n cynrychioli Llais i ymwelwyr, cleientiaid, a’r gymuned. Defnyddiwch eich crebwyll i wisgo’n briodol ar gyfer y gweithgareddau y gofynnir i chi eu cyflawni. Gallwn ddarparu dillad brand Llais i chi eu gwisgo wrth gyflawni eich dyletswyddau. Os ydych chi byth yn ansicr beth i’w wisgo, gofynnwch i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol.

Gwrthdaro Buddiannau:
Sylweddolwn y gall gwirfoddolwyr weithiau adnabod y rhai sy’n gysylltiedig â Llais yn bersonol - fel ffrindiau, teulu, neu gydweithwyr.

Oherwydd ein bod yn cynrychioli’r cyhoedd, rhaid inni fod yn agored, yn onest, ac yn deg. 

Iechyd a Diogelwch:
Bydd Llais yn gofalu am iechyd, diogelwch a lles pawb sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli i ni. Mae unrhyw weithgareddau Llais yn cael eu diogelu gan yswiriant iechyd a diogelwch. Mae’n bwysig eich bod yn deall ac yn derbyn eich cyfrifoldeb personol i’n helpu i sicrhau bod pawb yn ddiogel.

Mae’n bwysig eich bod yn:
Peidio â gwneud unrhyw beth sy’n effeithio ar eich iechyd a’ch diogelwch eich hun, neu ar iechyd a diogelwch gwirfoddolwyr eraill, staff Llais, y cyhoedd neu eraill. 

Dilyn gyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch a dilynwch ein cyngor.

Rhoi gwybod i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol am unrhyw anghenion iechyd a diogelwch personol sydd gennych.

Bydd Llais yn cynnal asesiadau risg ar weithgareddau yr ydych yn eu gwneud a lleoliadau yr ymwelwch â hwy lle bo angen, a bydd yn rhannu’r rhain gyda chi fel eich bod yn gwybod beth allwch chi ei wneud i gadw’ch hun yn ddiogel tra’n gwirfoddoli i ni. Mae ein polisi Iechyd a Diogelwch yn cynnwys y manylion
llawn.

Gweithio ar eich pen eich hun:
Mae’n annhebygol y gofynnir i chi gwrdd â phobl un-i-un wrth wirfoddoli, ond lle mae hyn yn digwydd, gwnewch yn siŵr bod eich Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol wedi cytuno i’r  cyfarfod. Bydd angen rhoi manylion y cyfarfod i staff swyddfa Llais – pryd, ble a phwy rydych yn cyfarfod.

Rhaid cynnal asesiad risg cyn unrhyw gyfarfod un-i-un. Bydd hyn yn cynnwys y lleoliad, sut i ddelio ag argyfwng meddygol neu ymddygiad treisgar, cyfrinachedd, a chadw gwybodaeth yn ddiogel.

Ni chewch fynychu ymweliad cartref oni bai gydag aelod o staff Llais. Dylid trefnu cyswllt ffôn rheolaidd rhyngoch chi a’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol neu swyddfa Llais ymlaen llaw. 

Dylech hefyd adael manylion gyda’ch teulu o ble rydych yn mynd rhag ofn y bydd argyfwng. Os ydych chi ar eich pen eich hun pan fydd digwyddiad neu ddamwain yn digwydd, dylech roi gwybod i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol neu dîm
staff Llais cyn gynted â phosibl. Gofynnir i chi lenwi ffurflen adrodd am ddigwyddiad neu ddamwain wedyn.

Os bydd tân tra byddwch yn gwirfoddoli, rhaid i chi ddilyn y gweithdrefnau yn y lleoliad yr ydych yn ymweld ag ef. Dylid
dweud wrth swyddfa Llais, a chwblhau adroddiad digwyddiad.

Damweiniau, digwyddiadau ac yswiriant:
Rhaid rhoi gwybod i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol am bob damwain a digwyddiad cyn gynted â phosibl. Os ydych chi’n teimlo ei fod yn argyfwng go iawn, cysylltwch â’r gwasanaethau brys ar unwaith. Mae gan Llais ‘Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr’ ac ‘Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Indemniad Proffesiynol’ ar gyfer pan fyddwch yn gwirfoddoli gyda Llais.

Cyfrinachedd:
Rhaid i wirfoddolwyr gadw gwybodaeth yn gyfrinachol yn ystod eu hamser gyda Llais. Pan fyddwch yn cwblhau eich Cytundeb Gwirfoddolwr, rydych yn llofnodi datganiad cyfrinachedd. Mae hyn yn golygu bod gwybodaeth gyfrinachol am bobl rydym yn eu cefnogi, gwirfoddolwyr, staff Llais a’n gwaith yn cael ei gadw’n breifat, oni bai bod angen i ni rannu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith.

Diogelwch personol a bathodynnau adnabod:
Bydd angen i ni gadw cyswllt brys i chi, y byddwn yn cysylltu mewn achos annhebygol o argyfwng. Os oes angen, byddwch yn cael bathodyn adnabod gwirfoddolwr a ddylai fod gyda chi bob amser wrth wirfoddoli i Llais.

Gwrthodwch yn gwrtais os yw defnyddiwr gwasanaeth yn gofyn am eich manylion cyswllt personol. Mae rhannu eich manylion yn eich rhoi mewn perygl o ymwthio i’ch bywyd preifat, a phobl yn dibynnu’n ormodol arnoch chi. Mae yn naturiol bod eisiau helpu rhywun mewn angen, ond rydym yn annog pobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn ein gwaith i fod yn annibynnol.

Diogelu:
Bydd holl wirfoddolwyr Llais yn cael eu hyfforddi mewn diogelu fel rhan o’u cyfnod sefydlu. Bydd hyn yn eich helpu i gymryd y camau cywir i gadw’r plant a’r oedolion y byddwch yn eu cyfarfod yn ddiogel. 
 

Efallai y bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) arnoch fel rhan o’n polisi diogelu.

Dylid siarad am unrhyw bryderon y gallai oedolyn neu blentyn fod yn dioddef niwed gyda staff Llais cyn gynted â phosibl. Byddant yn penderfynu beth i’w wneud â’r wybodaeth fel rhan o’n polisïau diogelu. Os bydd rhywun yn rhannu gyda chi eu bod wedi cael niwed, cofiwch aros yn dawel, gwrandewch yn ofalus, a pheidiwch â gofyn cwestiynau. Dywedwch wrth y person y byddwch yn cymryd yr hyn a ddywedasant o ddifrif, a bod beth ddigwyddodd ddim o’u bai nhw, a bydd rhaid i chi ddweud wrth aelod o staff neu reolwr. Rhaid ichi adrodd yr hyn y maent yn ei ddweud wrth aelod o staff cyn gynted â phosibl ac ysgrifennwch yr hyn a ddywedwyd a phwy rydych chi wedi ei hadrodd i. Ni allwch gadw ‘r wybodaeth i chi’ch hun os ydych chi’n meddwl eu bod nhw neu rywun arall mewn perygl.

Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl, cysylltu â’r person y dywedasant wrthych amdano, na ddywedwch wrth unrhyw un nad oes angen iddynt wybod.

Diogelu Data:
Cyn y gallwn gasglu, storio, neu ddefnyddio gwybodaeth – neu ‘ddata’ – am rywun, mae’r gyfraith diogelu data, a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RDDC), yn golygu bod yn rhaid iddynt gytuno i hyn. 

Delio ag anawsterau:
Os ydych chi’n cael unrhyw beth yn anodd, neu os nad yw’ch profiad gyda ni’n gweithio fel y gobeithiwyd, siaradwch â’ch Rheolwr Gwirfoddoli cyn gynted â phosibl.

Gyda’n gilydd, byddwn yn ceisio gweithio pethau allan.
Rydyn ni eisiau i chi fwynhau gwirfoddoli gyda Llais, ond rydyn ni’n gwybod bod problemau’n gallu digwydd. Mae gennym broses datrys problemau i helpu i ymdrin ag unrhyw faterion cyn gynted â phosibl.

Mae’r broses hon ar gyfer delio â phryderon ynghylch y berthynas wirfoddolwr; ar gyfer pryderon neu gwynion eraill gweler ein Polisi Cwynion.

Byddwn yn sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn gallu chwarae rhan lawn wrth geisio datrys problemau gyda ni. Gallwch ddod â pherson cymorth neu eiriolwr i unrhyw gyfarfod fel rhan o’r broses datrys problemau. 

Ein proses datrys problemau:

Byddwn yn dweud wrthych am unrhyw broblemau gydag eich gwirfoddoli cyn gynted â phosibl a byddwn yn cytuno ar ffordd gydag ein gilydd i unioni pethau. Gall hyn fod yn hyfforddiant ychwanegol, neu yn newid yn eich rôl wirfoddoli.

Os na fydd hyn yn datrys y broblem, byddwn yn cynnig cyfarfod â’ch Swyddog Arweiniol i siarad ymhellach.

Os oes angen cyfarfod, byddwn yn trafod y materion gyda chi. Byddwn yn darganfod gyda chi a oes unrhyw ffyrdd eraill o ddatrys y pryderon sydd gennym ac yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn cytuno â chanlyniad y cyfarfod ffurfiol, gallwch godi apêl gyda Bwrdd Llais. Bydd Bwrdd Llais yn rhoi gwybod i chi eu bod wedi derbyn yr apêl o fewn pum diwrnod gwaith ac yn cynnig cyfarfod.

Bydd y Bwrdd yn rhoi gwybod i chi am eu hymateb o fewn 10
diwrnod gwaith i’r cyfarfod hwn. Mae penderfyniad y Bwrdd yn derfynol.

Os na allwn ddatrys y sefyllfa gyda chi, efallai y gofynnir i chi roi’r gorau i wirfoddoli gyda Llais. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am gyfleoedd eraill.

Weithiau ni fyddwn yn gallu cynnig y cyfle i chi newid eich ymddygiad. Gall hyn gynnwys, ymhlith materion eraill, fygythiadau, cam-drin neu ymosodiadau ar unrhyw staff, gwirfoddolwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau, torri
polisïau ar ddiogelu plant neu oedolion agored i niwed, torri cyfrinachedd, a gweithredoedd troseddol fel lladrad neu dwyll.

Cwynion:
Er bod delio â chwynion yn gallu bod yn anodd, gall roi cyfle i ni newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau er gwell.

Os dymunwch wneud cwyn neu os ydych yn derbyn cwyn gan rywun am eich gwasanaeth neu am Llais, a fyddech cystal â throsglwyddo hyn i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol. 

Chwythu’r chwiban: 
Mae’n bwysig bod unrhyw dwyll, neu ymddygiad anghywir gan staff neu eraill sy’n gweithio ar ran Llais yn cael ei drin yn briodol.

Gallwch godi unrhyw bryderon am ymddygiad eraill yn Llais neu’r ffordd y mae’r sefydliad yn cael ei redeg. Mae ein Polisi Chwythu’r Chwiban yn dweud wrthych sut y gallwch godi unrhyw bryderon a sut yr ymdrinnir â’r pryderon hynny.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant:
Byddwn yn trin pob gwirfoddolwr ac ymgeisydd gwirfoddol yn deg. Rydym yn derbyn gwirfoddolwyr ar sail pa mor addas ydyn nhw i’r rôl. 

Ni fyddwn yn trin unrhyw un yn annheg oherwydd eu hoedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu gefndir cymdeithasol-economaidd. 

Disgwyliwn i’n wirfoddolwyr ddilyn ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a fydd yn rhan o anwytho gwirfoddolwyr Llais.

Symud ymlaen a geirda:
Gallwch roi’r gorau i wirfoddoli gyda Llais unrhyw bryd. Rhowch wybod i’ch Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol. Hoffem gael sgwrs gyda chi am eich rhesymau dros adael, er y gallwch ddewis peidio. Os ydych wedi bod yn wirfoddolwr gyda ni ers dros chwe mis, gallwn hefyd roi geirda i chi.

Diolch am ein helpu i lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.


Cysylltwch os hoffech chi ymuno â'r tîm