Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn gosod ein strategaeth, ac yn darparu craffu, goruchwylio a llywodraethu ar draws ein holl waith.

Mae ein Bwrdd yn dwyn y tîm gweithredol i gyfrif am gyflawni ein nodau, amcanion a blaenoriaethau i fodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 a’n dyletswyddau sector cyhoeddus ehangach.

Fel Bwrdd rydym yn angerddol bod:

Caiff ein gwaith ei lywio gan y bobl sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n uniongyrchol a gydag eraill i nodi BLAENORIAETHAU’R BOBL.

Rydym am fod yn sefydliad lle mae cynwysoldeb, uniondeb, tosturi a pharch at ein gilydd yn llywio popeth a wnawn. Byddwn yn gweithio gyda'n pobl i ddatblygu'r dull hwn.

Rydym yn canolbwyntio ar feithrin perthynas ag ystod eang o bobl, grwpiau cynrychioliadol cymunedol a sefydliadau fel y gallwn gydweithio i ddefnyddio ein hadnoddau ar y cyd i wneud gwahaniaeth.

Mae’n hanfodol bwysig i ni ein bod yn cynnal ein hannibyniaeth er mwyn cyfleu barn pobl a chymunedau Cymru yn fwyaf effeithiol.


Ein Cyfarfodydd

Rydym am i bobl gymryd rhan cymaint â phosibl yn Llais ac felly rydym yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd chwarterol yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, y gall unrhyw un ymuno â nhw, yn bersonol neu ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Wrth ddewis ble rydym yn cynnal ein cyfarfodydd byddwn yn ystyried mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a safonau hygyrchedd i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu bod yn bresennol yn bersonol os ydynt yn dymuno.

Bydd lleoliad a manylion pob cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn cael eu rhestru isod cyn gynted ag y byddant yn hysbys, cliciwch ar y dyddiadau isod i gael rhagor o fanylion am bob dyddiad.

Byddai cyfieithu ar y pryd (Cymraeg a Saesneg) yn cael ei ddarparu er mwyn i bobl allu gwrando a chyfathrebu yn eu dewis iaith.

Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os ydych chi'n bwriadu mynychu, ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio [email protected].

Bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau ym mhob un o’n cyfarfodydd. Bydd y Cadeirydd yn gwahodd cwestiynau gan y rhai sydd wedi mynychu yn bersonol ac yn ateb cwestiynau ysgrifenedig a anfonir ymlaen llaw. Os hoffech gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig cyn y cyfarfod gallwch eu hanfon atom drwy [email protected] hyd at 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

Ein hagendâu a phapurau cyfarfodydd

Bydd yr agenda ar gyfer pob un o gyfarfodydd chwarterol y Bwrdd yn cael ei chynnwys ar y wefan isod. Bydd agendâu ar gael 5 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

Er ein bod yn darganfod y ffordd orau o gyfathrebu gweithgareddau ein Bwrdd, ni fydd ein papurau cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon, ond gallwch wneud cais amdanynt trwy e-bostio [email protected]. Gallwch ofyn am wybodaeth am y pethau fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod yn Gymraeg a Saesneg ac mewn ieithoedd cymunedol eraill.

Rydym yn frwd dros wneud ein gweithgareddau yn hygyrch i gynifer o bobl ag y gallwn, gan gynnwys gwaith ein Bwrdd. Gan ein bod yn sefydliad newydd, mae gennym gyfle i wneud pethau’n wahanol felly rydym ar hyn o bryd yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu gweithgareddau ein Bwrdd (gan gynnwys beth sy’n digwydd yn ein cyfarfodydd). Gwyddom y bydd hygyrchedd yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl ag anghenion gwahanol. Nid oes un dull sy'n addas i bawb. Dyna pam rydym yn gofyn i bobl ddweud wrthym sut y maent am weithio gyda ni ar hyn o bryd a hoffem glywed gennych am y ffordd orau i ni gyfathrebu ein cyfarfodydd Bwrdd.

Os oes gennych syniad - Rhowch wybod i ni beth yw eich barn. Neu e-bostiwch ni [email protected]

Mae’r safbwyntiau a’r profiadau y mae pobl wedi’u rhannu â ni yn cael eu trafod a gwneir penderfyniadau am wahanol agweddau ar ein gwaith. Mae cyfrinachedd unigolion, yn naturiol, yn cael ei gynnal bob amser.

Dyddiadau Cyfarfod Bwrdd

10:00-14:30 28 Ebrill 2023 
Agenda

10:00-14:00 26 Gorffennaf 2023 (Venue Cymru)
Papurau Llawn y Gyfarfod

26 Hydref 2023

24 Ionawr 2024

Dogfennau Llywodraethu'r Bwrdd

Rydym yn dal i weithio ar hwn a fydd yn barod yn fuan