Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Cyfarfod Bwrdd Gyhoeddus - 28 Mehefin 2025

Dyddiad ac amser
28 Gorffennaf 2025
10:30 - 14:00
Lleoliad

Ramada Plaza
Wrexham
LL13 7YH

Cyfarwyddiadau

Ein Cyfarfodydd

Rydym am i bobl gymryd cymaint o ran â phosibl yn Llais ac felly rydym yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, y gall unrhyw un ymuno â nhw, yn bersonol neu ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Wrth ddewis ble rydym yn cynnal ein cyfarfodydd, byddwn yn ystyried safonau mynediad a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu mynychu’n bersonol os dymunant.   

Bydd lleoliad a manylion pob cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn cael eu rhestru isod cyn gynted ag y byddant yn hysbys, cliciwch ar y dyddiadau isod i gael rhagor o fanylion am bob dyddiad. 

Mae dwy ffordd y gallwch chi fynychu cyfarfod Bwrdd naill ai'n bersonol neu ar-lein trwy Zoom. 

Cofrestru eich presenoldeb yn bersonol

Rhowch wybod i ni o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu'n bersonol ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio [email protected].

Cofrestru eich presenoldeb ar-lein

Rhowch wybod i ni hefyd o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu ar-lein trwy Zoom, ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw. 

Gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy e-bostio eich enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt a sefydliad os yn berthnasol i [email protected]. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn dolen Zoom trwy e-bost i fynychu'r cyfarfod. 

Bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau ym mhob un o’n cyfarfodydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech i’r Bwrdd eu hateb, gofynnwn i chi eu cyflwyno’n ysgrifenedig i [email protected] erbyn canol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod.

 

Papurau Bwrdd iw ddod.

Location

Rhannwch y dudalen hon