
Rhannwch eich stori
Bydd eich straeon bywyd go iawn a’ch adborth am ddefnyddio gwasanaethau’r GIG a Gofal Cymdeithasol yn helpu i greu darlun o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, fel y gallwn helpu llunwyr polisïau a gweithredwyr i wella gwasanaethau.
Ac, oherwydd ein bod yn gorff statudol, mae’n rhaid i holl sefydliadau’r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector sy’n darparu gofal wrando.
Cymerwch bum munud i rannu eich stori.
Os oes angen cyngor neu wybodaeth arnoch am wasanaethau lleol, cysylltwch â'ch tîm Llais lleol.