Sut mae eich adborth yn helpu
Siaradwch â ni a daw eich llais yn fwy pwerus nag erioed o'r blaen wrth wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bawb. Dyna beth rydyn ni yma ar ei gyfer.
YN YR ADRAN HON
Dywedwch wrthym am eich profiadau
Dywedwch wrthym am eich profiadau – da a drwg – a byddant yn llywio ein hadborth swyddogol ar wasanaethau i holl lunwyr polisïau a gweithredwyr y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Oherwydd ein bod yn gorff statudol, mae’n ofynnol iddynt wrando a gweithredu ar yr hyn a glywant gennym. Er bod hon yn sefyllfa bwerus, ein nod bob amser yw cydweithredu a bod sefydliadau'n dod i ddibynnu fwyfwy ar eich gwybodaeth a'ch profiadau wrth gynllunio a darparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae deall yr hyn sy’n gweithio’n dda yn golygu y gallwn rannu hynny o amgylch Cymru; ac mae cwyno pan aiff pethau o chwith yn bwerus o ran eu newid er gwell, felly byddwn yn eich helpu chi ynglŷn â hynny hefyd.
Dyna sut y bydd eich adborth yn gwella gofal pawb ac yn newid bywydau llawer o bobl. Byddwn yn sicrhau y bydd hyn yn digwydd.
Ac mae’r ffaith ein bod yn gweithio ym maes iechyd a maes gofal cymdeithasol yn golygu y byddwn yn gallu creu darlun cyfan o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Felly bydd eich barn yn helpu gwasanaethau i ddod yn ddi-dor ac yn well ar yr un pryd.
Rhannwch eich stori
Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol?
Yna gallwch chi helpu i'w gwneud yn well i bawb trwy ddweud wrthym am eich profiadau - da a drwg.