
Dewch i weithio i ni
Swyddi Gwag Presennol
Byddwch yn rhan o Llais a helpwch ni i godi pŵer a dylanwad lleisiau pobl i lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pawb.
Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais i bobl Cymru yn y modd y maent yn derbyn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Trosolwg swydd
Ein rôl yw ymgysylltu â chleifion a chyhoeddus Cymru a gwrando arnynt. Rydym yn gwneud hyn drwy estyn allan at bobl yn eu cymunedau lleol, clywed eu barn a deall eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn rhoi adborth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn helpu i lunio a dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol.
Ydych chi’n angerddol am wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Mae cyfle gwych wedi dod ar gael yn Llais ar gyfer Cynorthwyydd Cymorth Gwasanaethau Pobl, Band 4, 37.5 awr yr wythnos.
Mae hon yn rôl hybrid, gyda gweithio o bell a swyddfa.
Mae’r gallu I gyfarthrebu yn Gymraeg yn dymunol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Cynorthwyydd Cymorth Gwasanaethau Pobl yn darparu cyngor a chefnogaeth AD proffesiynol a chynhwysfawr rheng gyntaf i staff a rheolwyr ar draws Llais ar ystod o bynciau AD; Bydd gofyn i'r deiliad post dderbyn y manylion (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a phenderfynu ar y ffordd orau o weithredu mewn ymateb i'r ymholiad. Gallai hyn fod yn cyfeirio'r cyswllt at y polisi cywir neu geisio datrys ymholiadau mwy sylfaenol/arferol ar unwaith neu gyfeirio ymholiadau mwy cymhleth i'r person priodol yn y tîm. Felly, mae angen rhywfaint o ddadansoddiad i benderfynu a yw'n bosibl delio â'r ymholiad eu hunain trwy ddarparu cyngor, cyfeirio at y polisi neu'r broses gywir neu gyfeirio at gydweithwyr uwch os oes angen mwy na darparu cyngor o ystod o opsiynau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae pawb yn Llais yn credu y dylai pobl a chymunedau yng Nghymru fyw bywydau hapus, iach lle maen nhw'n cael yr iechyd a'r gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw. Credwn mai’r unig ffordd y gall hyn ddigwydd yw drwy godi pŵer a dylanwad eu lleisiau wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar bobl.
Dyna le rydych chi'n dod i mewn! Ydych chi’n chwilio am y cyfle i ymuno â sefydliad newydd, angerddol, a chyfrannu at wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru?
Rydym yn chwilio am bobl angerddol a galluog o bob cefndir sy'n dod â phrofiadau bywyd gwahanol a fydd yn helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl. Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol a all ddod â sgiliau, profiadau byw a safbwyntiau ffres i'n gwaith.
Mae Llais yn darparu ystod lawn o fuddion i staff gan gynnwys:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 34 diwrnod gyda hyd wasanaeth) ynghyd â gwyliau cyhoeddus statudol – pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser
- Cyflog cystadleuol
- Gweithio hyblyg
- Aelodaeth awtomatig o gynllun pensiwn y GIG
- Mynediad at y Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ein gwasanaeth cwnsela cyfrinachol
Prif Gyfrifoldebau’r Disgrifiad Swydd
Mae disgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn, a fyddech cystal â'i adolygu cyn cyflwyno'ch cais.
Os ydych yn barod am yr her ac eisiau bod yn rhan bwysig o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a bod gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod y swydd hon, cysylltwch â: Helyn Bunce, [email protected]