Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Bamidele Adenipekun

Aelod Anweithredol Bwrdd Llais

Rwy'n byw yn Abertawe gyda fy merch ac rwy'n awdur, hyfforddwr, ac ymgynghorydd tegwch iechyd a lles.

Rwy’n arbennig o angerddol am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, arfogi menywod i ffynnu ar ôl canser a helpu arweinwyr i roi hwb i wydnwch y gweithlu.
Credaf fod pawb yn haeddu cael eu clywed, eu deall a ffynnu waeth beth fo amgylchiadau eu bywyd.

Rwyf wedi defnyddio fy mhrofiad personol a'm harbenigedd i greu cynnwys hyfforddi pwrpasol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar wella darpariaeth gofal iechyd.
Rwyf hefyd yn ymchwilydd, yn Bartner Addysgu Cleifion ac yn Ddarlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n cynghori ar brosiectau ymchwil ac yn addysgu ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gyfystyr â darpariaeth gofal iechyd gwael yn erbyn da.

Rwyf wrth fy modd yn rhoi yn ôl ac rwy'n gwneud hyn trwy wahanol rolau a swyddi, gan gynnwys:
Llysgennad ar gyfer Canolfannau Canser Maggie a Gwirfoddolwr Cyfryngau ar gyfer Cancer Research UK. Cyn hynny roeddwn yn Wirfoddolwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Breast Cancer Now – rôl yr ymgymerais â hi am 7 mlynedd.

Un o fy hoff mantras yw: "Rwyf yma i wella pethau".

Rwy’n bwriadu defnyddio fy sgiliau, arbenigedd a phrofiadau personol i gefnogi datblygiad Llais a’i swyddogaethau.

Delwedd
Bamidele Adenipekun Llais Board Member