Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Llais Powys - Adroddiad Ysbyty Llanidloes
Gwyddom faint y mae Ysbyty Llanidloes yn ei olygu i’r gymuned—a bod newidiadau dros dro diweddar i wasanaethau wedi codi pryderon i lawer ohonoch.Yn Llais, ein rôl ni yw gwrando arnoch chi a siarad ar eich rhan. Dyna pam rydym wedi mynd â’ch pryderon yn uniongyrchol at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a gofyn iddyntam atebion. Dyma beth ddywedwyd wrthym.
Llais Powys - Adroddiad Ymgysylltu - Fforwm Cyhoeddus Llanandras - Mawrth 2025
Ar 5 Mawrth, cynhaliodd Llais Powys fforwm ymgysylltu cyhoeddus yn Llanandras i wrando ar brofiadau a phryderon trigolion ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol. Cynigiodd y fforwm gyfle gwerthfawr i'r mynychwyr rannu eu straeon a'u hawgrymiadau, gan dynnu sylw at heriau allweddol o ran
mynediad, cyfathrebu a darparu gwasanaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r hyn a glywsom, sut mae'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol, a'rcamau yr ydym yn bwriadu eu cymryd nesaf.
Llais Powys - Adroddiad Ymgysylltu - Y Gelli Gandryll a Thalgarth
Yn ystod mis Tachwedd 2024, cynhaliodd Llais ymgysylltiad cymunedol â ffocws yn ardal Y Gelli Gandryll a Thalgarth, yr wythfed ardal ym Mhowys i gael ei chynnwys yn ein rhaglen leol. Mae'r fenter hon yn rhan o'n hymagwedd 13 ardal sy'n cyd-fynd â strwythurau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Y nod oedd casglu profiadau byw o iechyd a gofal cymdeithasol gan bobl yn y trefi gwledig a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys gwasanaethau a gyrchwyd dros y ffin yn Lloegr.
Deall rôl Llais mewn newidiadau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae ein gwaith yn cwmpasu llawer o feysydd - rydym yn casglu adborth am eich profiadau, yn hyrwyddo gwelliannau yn ansawdd gwasanaethau ac yn cefnogi pobl i godi pryderon. Un agwedd bwysig ar ein gwaith yw sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed pan fydd newidiadau i wasanaethau yn cael eu hystyried.
Cael babi yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe
Profiadau o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu’r profiadau a rennir gan bobl a ddywedodd wrthym am eu defnydd o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.