Deall rôl Llais mewn newidiadau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae ein gwaith yn cwmpasu llawer o feysydd - rydym yn casglu adborth am eich profiadau, yn hyrwyddo gwelliannau yn ansawdd gwasanaethau ac yn cefnogi pobl i godi pryderon. Un agwedd bwysig ar ein gwaith yw sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed pan fydd newidiadau i wasanaethau yn cael eu hystyried.
