Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Adroddiad Yr hyn yr ydym wedi i glywed Llanfair-ym-Muallt
Yn ystod mis Tachwedd 2023, cynhaliodd Rhanbarth Llais Powys gyfnod o ymgysylltu â ffocws yn ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd. Fe wnaethom fynychu 13 o wahanol leoliadau a siarad â phobl am eu barn a'u profiadau o dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal.
Rhannodd rhai pobl brofiadau cadarnhaol, tra dywedodd eraill wrthym am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau.
Yn dilyn y cyfnod hwn o ymgysylltu, cynhaliom weithdy ar y cyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys pan wnaethom dynnu sylw at brif themâu’r hyn a ddywedodd pobl wrthym. Mewn ymateb, buont yn trafod meysydd gwaith sydd eisoes ar y gweill a nodwyd rhai camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd.
Mae ein hadroddiad yn crynhoi'r hyn a glywsom a'r ymatebion a gawsom gan y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Sir.