Fframwaith Sicrwydd Bwrdd Llais
Mae Fframwaith Sicrwydd Bwrdd Llais yn gweithredu fel mecanwaith allweddol i roi hyder i’r Bwrdd fod y sefydliad yn gweithio’n effeithiol tuag at ei nodau strategol, a’i fod yn glir ynghylch y risgiau o beidio â chyflawni’r nodau strategol hyn. Mae’n canolbwyntio ar gyflawni strategaeth 3 blynedd Llais a chynlluniau blynyddol ategol. Mae’r cynlluniau blynyddol yn manylu ynghylch nodau ac amcanion y sefydliad, yr adran a’r timau dros gyfnod o 12 mis. Mae’r cynlluniau hyn yn ceisio gwireddu gweledigaeth Strategaeth Llais. Bydd yn ofynnol i’r Bwrdd gytuno ar Gynlluniau Blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.
