Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Gwrando ar rieni: Llais yn cyhoeddi adroddiad ar brofiadau mamolaeth ym Mae Abertawe

NEWYDDION 12 Mai 2025

Gwrando ar rieni: Llais yn cyhoeddi adroddiad ar brofiadau mamolaeth ym Mae Abertawe

Mae adroddiad newydd yn rhannu lleisiau dros 500 o bobl ac yn tynnu sylw at yr angen am welliannau diwylliannol, clinigol ac arweinyddiaeth barhaus mewn gofal mamolaeth.

Heddiw, cyhoeddodd Llais adroddiad newydd yn rhannu profiadau mwy na 500 o bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn seiliedig ar arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ystod eang o brofiadau, ac mae rhai ohonynt yn peri pryder mawr.

Er bod rhai teuluoedd wedi disgrifio gofal tosturiol a phroffesiynol, dywedodd nifer o rai eraill wrthym eu bod yn teimlo nad oeddent yn cael eu clywed, heb gefnogaeth neu'n anniogel ar wahanol gamau o'u taith: yn enwedig yn ystod esgor, ar ôl genedigaeth, neu wrth geisio codi pryderon.


Mae'r themâu allweddol a godwyd yn cynnwys:

  • Amrywiad yn ansawdd gofal a chyfathrebu
  • Diffyg parhad a chyfranogiad mewn penderfyniadau
  • Cymorth ôl-enedigol a lleddfu poen anghyson
  • Rhwystrau i godi pryderon neu gael eu cymryd o ddifrif.

Er na ddisgrifiodd neb brofiad cwbl gadarnhaol o'r dechrau i'r diwedd, canmolodd llawer o deuluoedd aelodau unigol o staff y gwnaeth eu caredigrwydd a'u gofal personol wahaniaeth parhaol. Mae'r straeon hyn yn dangos pwysigrwydd gofal parchus a thosturiol a'r effeithiau posibl a all ddeillio pan nad yw'n gael ei gynnyg.

Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:

“Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu stori, llawer ohonynt yn hynod bersonol a phoenus. Rhaid i'r profiadau hyn arwain at weithredu. Nid yw’r adroddiad hwn yn ymwneud â bai, mae’n ymwneud â gwrando a dysgu. Mae pawb sydd angen gofal a chymorth mamolaeth a newyddenedigol yn haeddu gofal diogel, tosturiol a chyson.

Mae rhai o'r pethau a glywsom yn cyd-fynd ag adolygiadau mamolaeth eraill ledled y DU, gan gynnwys yng Nghwm Taf Morgannwg ac Amwythig a Thelford. Mae natur ailadroddus y pryderon hyn yn tynnu sylw at yr angen am ddysgu ar draws y system, yn enwedig o ran arweinyddiaeth, diwylliant, a sut mae gwasanaethau’n gwrando ac yn ymateb i adborth.”

Dywedodd Medwin Hughes, Cadeirydd Llais, “Mae’r lleisiau yn yr adroddiad hwn yn dangos yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer newid. Yr hyn sydd ei angen nawr yw arweinyddiaeth barhaus ar draws y system i wneud yn siŵr bod y profiadau hynny’n cael eu clywed a’u gweithredu arnynt.”

Mae camau cadarnhaol ar y gweill. Mae Llais yn croesawu’r hyn y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi’i wneud mewn ymateb i bryderon, gan gynnwys:

  • ailagor Uned Geni Castell-nedd Port Talbot a gwasanaethau genedigaethau yn y cartref.
  • lefelau staffio, datblygiad a hyfforddiant gwell.
  • monitro diogelwch a phrofiad cleifion gwell.
  • hyfforddiant arbenigol ar gyfer profedigaeth a gwell cefnogaeth i fwydo ar y fron.
  • Siarter Gwasanaethau Mamolaeth a gynhyrchwyd ar y cyd ac ymrwymiad o’r newydd i wrando ar brofiad cleifion.

Mae angen mwy o waith i barhau i yrru gwelliannau, ac i wneud yn siŵr bod y camau gwella a gyflwynwyd hyd yn hyn yn gwneud y gwahaniaeth y mae angen i bobl ei weld. Bydd angen i'r bwrdd iechyd barhau i weithio gyda phobl a chymunedau i ailadeiladu ymddiriedaeth yn y gwasanaethau hyn sy'n newid bywydau.

Mae ein hadroddiad wedi'i rannu gyda'r Bwrdd Iechyd a bydd yn cyfrannu at yr Adolygiad Annibynnol ehangach o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol sy'n digwydd ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.
 

Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe::
“Rydym yn ddiolchgar i Llais am yr adroddiad hwn ac nid ydym yn tanamcangyfrif pa mor anodd y bydd ail-fyw profiadau negyddol o'n gwasanaethau wrth gyfrannu wedi bod. Dyna pam yr hoffem ymddiheuro unwaith eto i gydnabod y trawma a’r straen a ddioddefwyd gan unigolion â phrofiad gwael neu ganlyniadau niweidiol. Rydym hefyd yn croesawu cydbwysedd cyfartal yr adroddiad â’r enghreifftiau da o ofal a phrofiad, ac yn cytuno bod angen i’r rhain fod yn llawer mwy cyson.“

Abi Harris, Chief Executive, added:
“Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar gryfhau ein gwasanaethau ac mae adroddiad Llais yn cydnabod llawer o’r gwelliannau a wnaed. Mae’r Adolygiad Annibynnol o’n gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar fin digwydd a bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf. 
Mae Llais wedi rhannu ei ganfyddiadau gyda’r Adolygiad Annibynnol a bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag amrywiaeth o fewnbynnau eraill, gan gynnwys gan ddefnyddwyr gwasanaethau drwy weithgareddau ymgysylltu’r Adolygiad ei hun ond hefyd o ganlyniad i adolygiadau clinigol manwl a gynhaliwyd gan glinigwyr annibynnol ac adolygiad o lu o ddata ar y gwasanaethau. 
Byddwn yn ymateb yn llawn i holl argymhellion yr holl adroddiadau pwysig hyn gyda’n gilydd ac yn sicrhau ein bod yn dysgu ac yn gweithredu arnynt. Fel mae adroddiad Llais yn ei ddangos, rydym yn gwneud gwelliannau a buddsoddiadau mewn ansawdd, gwasanaethau, staffio a sut rydym yn gwrando ar ac yn gweithredu ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym am eu gofal a’u profiad.”

Dywedodd Dr Denise Chaffer, Cadeirydd adolygiad annibynnol gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi adborth pwysig ar rai o’r profiadau y mae menywod a theuluoedd wedi’u profi wrth ddefnyddio gwasanaethau mamolaeth yn Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf; bydd yr holl wybodaeth hanfodol hon yn rhan o’r adolygiad annibynnol. Ochr yn ochr â’n diolch i Llais am ddatblygu’r adroddiad hwn, hoffem hefyd ddiolch i’r holl fenywod sydd wedi cyfrannu eu hamser a’u profiadau diffuant i helpu i wella dyfodol gwasanaethau mamolaeth.”

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfuno profiad bywyd â data clinigol a pherfformiad i adeiladu darlun cyflawn o ansawdd mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol. Nid dim ond hanesyn yw straeon; maent yn dystiolaeth. Rhaid i wrando ar bobl mewn amser real a gweithredu ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud fod yn rhan o sut mae gwasanaethau'n gwella.

Fel y llais statudol annibynnol dros bobl sydd angen gofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru, mae Llais mewn sefyllfa unigryw i dynnu sylw at y profiadau hyn a helpu i sicrhau eu bod yn llunio gwasanaethau gwell.


I bobl sydd â phrofiad o wasanaethau mamolaeth yr hoffent ei rannu, gallant wneud hynny yn y ffyrdd canlynol:
Cysylltwch â Llais: [email protected] 02920 235 558

Mae'r adolygiad annibynnol i fod i gyhoeddi ei adroddiad ddechrau haf 2025 a gall unrhyw fenyw neu deulu sy'n cael eu heffeithio gan gynnwys adroddiad Llais, neu sydd heb gyfrannu at yr adolygiad eto, wneud hynny drwy'r wefan https://www.nicheconsult.co.uk/swansea-maternity-and-neonatal-review/ neu drwy'r cyfeiriad e-bost hwn: [email protected]


--------------------------------------------------------------------
Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:
[email protected]  neu 02920 235558.

 

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 12 Mai 2025
Diweddarwyd diwethaf 12 Mai 2025