Rhannwch eich stori
Ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol yng Nghymru? Gallai hynny gynnwys ymweld â meddyg teulu, ysbyty, fferyllfa neu ddeintydd, derbyn gofal gartref, neu fyw mewn cartref gofal.
Beth bynnag yw eich profiad, rydym am glywed amdano. P'un a aeth pethau'n dda iawn neu a gawsoch eich siomi, gall eich stori helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ledled Cymru.
Bydd eich straeon a'ch adborth go iawn am ddefnyddio gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ein helpu i lunio darlun o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, er mwyn i ni allu helpu llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau i wella'r gwasanaethau hynny.
Rydym am glywed gan bobl o bob cefndir a chymuned, yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed bob amser.
Gyda'i gilydd, mae eich straeon yn ein helpu i lunio darlun cliriach o'r gofal iechyd a chymdeithasol y mae pobl yn ei dderbyn bob dydd yng Nghymru.
Cymerwch bum munud i rannu eich stori a helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ledled Cymru.
Sut mae eich adborth yn gwneud gwahaniaeth
Mae gwybod beth sy'n gweithio'n dda yn golygu y gallwn rannu arfer da ledled Cymru. A phan fydd pethau'n mynd o chwith, gall dweud wrthym amdano fod yn ffordd bwerus o helpu i wella gwasanaethau i eraill.
Mae'r profiadau rydych chi'n eu rhannu yn helpu i lywio ein hadborth i'r bobl sy'n cynllunio, rheoli a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Gan fod Llais yn gorff statudol annibynnol, rhaid i sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gofal wrando ar yr adborth a'r profiadau rydyn ni'n eu rhannu ar ran pobl a chymunedau.
Drwy wrando ar bobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gallwn adeiladu darlun mwy cyflawn o'r hyn sy'n gweithio, yr hyn sydd ddim, a lle mae angen newid. Mae eich adborth yn ein helpu i ddylanwadu ar welliannau sy'n gwneud gwasanaethau'n well, yn fwy cydgysylltiedig ac yn fwy ymatebol i anghenion pobl.
Straeon dan sylw
Rhannodd Frank ac Anne eu stori am fyw gyda dementia