Llywodraethu

Ewch i'r dudalen hon am ragor o wybodaeth am sut rydym yn gweithio.

Mae modd dod o hyd i'r holl ddogfennau y cyfeirir atynt ar y dudalen hon yma.

About Llais

Mae Fframwaith sicrwydd Bwrdd Llais yn gweithredu fel mecanwaith allweddol i roi hyder i’r Bwrdd fod y sefydliad yn gweithio’n effeithiol tuag at ei nodau strategol, a’i fod yn glir ynghylch y risgiau o beidio â chyflawni’r nodau strategol hyn. Mae’n canolbwyntio ar gyflawni strategaeth 3 blynedd Llais a chynlluniau blynyddol ategol. Mae’r cynlluniau blynyddol yn manylu ynghylch nodau ac amcanion y sefydliad, yr adran a’r timau dros gyfnod o 12 mis. 

Mae’r cynlluniau hyn yn ceisio gwireddu gweledigaeth Strategaeth Llais. Bydd yn ofynnol i’r Bwrdd gytuno ar Gynlluniau Blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.

Mae’r ddogfen hon yn nodi strategaeth a fframwaith polisi Llais ar gyfer rheoli risg, ac mae’n amlygu y bydd y sefydliad gydag amser yn symud tuag at fodel sydd hefyd yn cynnwys ac yn defnyddio fframweithiau gweithredu cadarnhaol sy’n seiliedig ar gryfderau i gynorthwyo Llais i gyflawni ei nodau ac amcanion cytunedig.

Mae Gweinidogion Cymru yn anfon llythyrau cylch gwaith i bob Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, megis Llais. Mae’r llythyr cylch gwaith yn nodi nodau polisi allweddol y Llywodraeth, ei disgwyliadau ar Llais yn y flwyddyn i ddod a’i ddyraniad cyllideb. Mae gan Llais ei Ddogfen Fframwaith unigol ei hun, wedi'i haddasu o dempled canolog. Dyma’r cytundeb sy’n nodi’r telerau ac amodau ar gyfer darparu cyllid cyhoeddus. Mae’r Ddogfen Fframwaith yn ystyried amgylchiadau penodol y corff unigol, gan gynnwys ei brif rôl a’i amcanion o dan ei ddogfen lywodraethu a rhwymedigaethau statudol o dan ddeddfwriaeth y DU a Chymru. Mae rolau a disgwyliadau clir ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r berthynas noddi (gan gynnwys Gweinidogion, Cadeiryddion, Byrddau, Prif Weithredwyr, Swyddogion Cyfrifyddu, adrannau noddi ac archwilwyr) wedi’u nodi yn y ddogfen.

Ysgrifennodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd Bwrdd Llais ar 31 Mawrth 2023 yn cyhoeddi’r llythyr cylch gwaith ar gyfer 2023/2024 a’r ddogfen fframwaith.

Darllenwch y ddogfen hon yma.

Wrth gyhoeddi ein cynllun 100 diwrnod rydym am dynnu sylw at ein hymrwymiad a'n hymgyrch i gymryd camau cynnar fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Byddwn ni'n hyrwyddo eu hawliau a'u disgwyliadau i allu cael mynediad i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw yn y ffordd maen nhw ei angen 

Mae hwn yn ganllaw statudol ar sut y gall cyrff y GIG ac awdurdodau lleol ymdrin â sylwadau a wneir iddynt gan Llais.

Byddwn yn gwrando ar yr hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym ac yna’n cynrychioli’r safbwyntiau hynny, neu’n cyflwyno sylwadau ar faterion sydd wedi dod i’w sylw mewn unrhyw ffordd arall, i’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu a threfnu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Dylai cynrychiolaethau helpu i sicrhau bod llais dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed ochr yn ochr â llais gweithwyr proffesiynol wrth wneud penderfyniadau am ddatblygu, gwella, newid neu derfynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Canllaw yw hwn i sefydliadau’r GIG ar sut y gallant wneud newidiadau i wasanaethau iechyd yng Nghymru. Nod hwn yw rhoi arweiniad ac awgrymiadau i sefydliadau'r GIG ar faterion i'w hystyried wrth iddynt nesáu at newidiadau i wasanaethau.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni beth oedd ein barn am ei dogfen “Cod ymarfer ar fynediad i eiddo ac ymgysylltu ag unigolion”. Mae’r ddogfen hon yn dweud sut y dylem gydweithio â’r GIG ac awdurdodau lleol pan fyddwn yn ymweld â safleoedd i siarad â phobl am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofynnom am rai newidiadau i'r ddogfen. Meddyliodd Llywodraeth Cymru am yr hyn a ddywedasom, a gwneud rhai newidiadau.

Mae'r llythyr hwn yn dynodi'r Prif Weithredwr, Alyson Thomas, yn swyddog cyfrifyddu ar gyfer Llais.

Darllenwch ein cynlluniau blynyddol yma.

Fel corff cyhoeddus, mae'n ofynnol i ni gyflawni rhai dyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae Safonau'r Iaith Gymraeg 2016 yn golygu bod gennym ni fel sefydliad ac fel cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw un yn gallu siarad â ni yn Gymraeg a'n bod yn parhau i annog defnydd o'r Gymraeg.

Gellir dod o hyd i'n Hysbysiad Cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg yma.

Mae Rheolau Sefydlog Llais, a nodir isod, wedi'u gwneud gan y Bwrdd. Lle bo’n berthnasol, bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu darllen a’u dehongli ynghyd â phwerau a swyddogaethau statudol y sefydliad.

 

Mae'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog (SFIs) hyn yn manylu ar y cyfrifoldebau ariannol sy'n berthnasol i bawb sy'n gweithio i Llais. Nid ydynt yn rhoi cyngor gweithdrefnol manwl a dylid eu darllen ar y cyd â'r nodiadau gweithdrefnol adrannol a rheolaeth ariannol manwl.

Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r materion sydd wedi'u neilltuo ar gyfer gwneud penderfyniadau gan Fwrdd Llais. Y Bwrdd sy'n gosod y strategaeth, ac yn darparu craffu, goruchwylio a llywodraethu ar draws holl waith Llais. Mae’n dwyn y tîm gweithredol a’r Tîm Arwain (yr uwch dîm arwain) i gyfrif am gyflawni’r nodau, amcanion a blaenoriaethau i fodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 a dyletswyddau cyhoeddus ehangach y sefydliad.

 

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol a'n dogfennau cyfrifon yma.