Ein polisïau a'n gweithdrefnau
Yn Llais, eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn ceisio rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy’n cael gwasanaeth gennym neu sy’n gweithio gyda ni. Gwyddom hefyd nad ydym yn cael pethau’n iawn bob amser. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym am y mater cyn gynted â phosibl, er mwyn i ni allu cymryd camau ar unwaith.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein gweithdrefn cwynion:
Diben y polisi hwn yw esbonio sut yr ydym yn ymdrin ag amrywiaeth a chynhwysiant teg, ein nodau, a sut y byddwn yn cyflawni'r rhain.
Mae’r polisi yn nodi:
- Ein hymagwedd at Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Ein nodau a'n disgwyliadau
- Y safonau yr ydym am eu cyrraedd
- Sut rydym yn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn yr ydym yn ei ddweud
Mae’r Corff Llais y Dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwn fel “Llais”, “ni”, neu “ein”) yn trin eich preifatrwydd a chyfrinachedd yn ddifrifol iawn.
Rydym yn cydymffurfio â phob agwedd ar fframwaith deddfwriaethol diogelu data’r DU, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.
Wrth gyflawni ein swyddogaethau statudol efallai y byddwn yn casglu ystod o wybodaeth bersonol gennych chi. Mae ein swyddogaethau/tasgau statudol yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd, cynrychiolaeth ac eiriolaeth cwynion. Mae gennym hefyd ddyletswyddau deddfwriaethol sy'n berthnasol i gyflawni'r swyddogaethau/tasgau hyn gan gynnwys, er enghraifft, hyrwyddo gweithgareddau Llais.
Rydym wedi datblygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn er mwyn bod mor dryloyw â phosibl am y wybodaeth bersonol a gasglwn ac a ddefnyddiwn amdanoch.