Cyhoeddiad
Meddygfa Padarn - Adroddiad Llais Gorllewin Cymru
Ym mis Gorffennaf 2026, treuliodd Llais Gorllewin Cymru bythefnos ym Mhenparcau yn siarad â phobl leol am eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o’n hymweliad, fe wnaethom gyfarfod â chleifion ym Meddygfa Padarn a grwpiau cymunedol eraill, i wrando ar eu barn a chasglu adborth. Mae pob sgwrs yn ein helpu i greu darlun cliriach o’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau lleol. Drwy wrando ar brofiadau pobl, gallwn helpu i sicrhau bod eu lleisiau yn llywio ac yn dylanwadu ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned.
Ymweliad Meddyg Teulu Padarn - Llais Gorllewin Cymru