Cyhoeddiad

Ymateb Llais i’r Strategaeth Ganser Genedlaethol ar gyfer Cymru

Mae Llais wedi ymateb i ymgynghoriad National cancer strategy Wales Llais Response Llywodraeth Cymru, gan dynnu ar yr hyn y mae pobl ledled Cymru wedi'i ddweud wrthym am eu profiadau o ddiagnosis canser, triniaeth, adferiad a chymorth parhaus.

Mae ein hymateb yn amlygu bod gwella canlyniadau canser yn ymwneud â llawer mwy na chyfraddau goroesi a thargedau amseroedd aros. Mae pobl eisiau mynediad amserol at ofal, gwybodaeth glir, gwasanaethau cydgysylltiedig a chymorth sy'n cydnabod effaith canser ar bob agwedd o'u bywydau. Clywsom bryderon am oedi cyn diagnosis a thriniaeth, anawsterau wrth lywio gwasanaethau, problemau cyfathrebu ac anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal.

Mae Llais yn galw am strategaeth ganser sy'n rhoi profiadau pobl wrth ei chraidd. Mae hyn yn cynnwys gwella diagnosis cynnar, lleihau anghydraddoldebau, cryfhau cymorth i deuluoedd a gofalwyr, sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio'n well gyda'i gilydd, a'i gwneud yn haws i bobl gael gafael ar wybodaeth a chymorth pan fydd eu hangen arnynt. Rydym hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys pobl sydd â phrofiad byw wrth lunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau canser ledled Cymru.

Mae'r ymateb yn pwysleisio y dylid mesur llwyddiant nid yn unig drwy ganlyniadau clinigol, ond hefyd drwy weld a yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando arnynt, yn cael gwybodaeth a chymorth priodol, ac yn gallu cael mynediad at ofal o ansawdd uchel waeth ble maent yn byw, eu hamgylchiadau personol neu'r math o ganser sydd ganddynt.

Ymateb Llais i’r Strategaeth Ganser Genedlaethol ar gyfer Cymru