Cyhoeddiad

Beth rydyn ni'n ei glywed: yr oedi i lawdriniaeth cadarnhau rhywedd

Ar ddiwedd mis Awst 2026, cafodd atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd, asesiadau llawfeddygol a llawdriniaethau wedi'u trefnu drwy Wasanaeth Rhywedd Cymru eu gohirio wrth i adolygiad clinigol annibynnol gael ei gynnal. Gwnaed y penderfyniad gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (CBCGC), sy'n comisiynu gwasanaethau arbenigol ar ran saith bwrdd iechyd Cymru.

Ers hynny, mae pobl yr effeithiwyd arnynt, a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi, wedi dweud wrthym am drallod difrifol, llawdriniaethau wedi'u canslo dyddiau neu oriau cyn yr oeddent i fod i ddigwydd, a misoedd o beidio â gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Dywedodd rhai wrthym eu bod nhw clywed llawer am yr oedi am y tro cyntaf ar gyfryngau cymdeithasol. Ysgrifennodd y bwrdd iechyd sy'n cynnal Gwasanaeth Rhywedd Cymru at 451 o bobl.Y cam cyntaf yr adolygiad yn cwmpasu tua 60 o bobl, felly nid yw'r rhan fwyaf yn gwybod eto pryd y bydd eu hachos yn cael ei ystyried.

Dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau:

  • cyfathrebu clir a rheolaidd am yr adolygiad a'i gynnydd
  • rhesymau clir dros yr oedi, a'r dystiolaeth y tu ôl iddo
  • amserlenni y gallant gynllunio o'u cwmpas
  • llais go iawn mewn penderfyniadau am eu gofal
  • cefnogaeth emosiynol a seicolegol tra byddant yn aros
  • hyder bod penderfyniadau'n cael eu harwain yn glinigol, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym. Rydym yn ei rannu gyda'r CBCGC i lywio ei gyfarfod Is-bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Chanlyniadau ar 30 Hydref 2026. Bydd Llais yn nodi ei farn ei hun ar sut y gwnaethpwyd y penderfyniad, a'i sylwadau ffurfiol i'r CBCGC, ar wahân.

Llais: Beth rydyn ni'n ei glywed - yr oedi i lawdriniaeth cadarnhau rhywedd