Yr hyn rydyn ni'n ei glywed: yr oedi i lawdriniaeth cadarnhau rhywedd - adroddiad llawn
Ers hynny, mae pobl sydd wedi'u heffeithio, a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi, wedi dweud wrthym am drallod difrifol, llawdriniaeth wedi'i ganslo dyddiau neu oriau cyn iddo fod yn ddyledus, a misoedd o beidio â gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Dywedodd rhai eu bod wedi clywed am yr oedi am y tro cyntaf ar y cyfryngau cymdeithasol. Ysgrifennodd y bwrdd iechyd sy'n cynnal Gwasanaeth Rhywedd Cymru at 451 o bobl. Mae cam cyntaf yr adolygiad yn cwmpasu tua 60 o bobl, felly nid yw'r mwyafrif yn gwybod eto pryd y bydd eu hachos yn cael ei ystyried.
Dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau:
cyfathrebu clir a rheolaidd am yr adolygiad a'i gynnydd
rhesymau clir dros yr oedi, a'r dystiolaeth y tu ôl iddo
amserlenni y gallant eu cynllunio o gwmpas
dweud eu dweud mewn penderfyniadau am eu gofal
cymorth emosiynol a seicolegol wrth iddynt aros
hyder bod penderfyniadau'n cael eu harwain yn glinigol, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth
Mae cyrff y GIG yn iawn i weithredu ar bryderon am ddiogelwch, ac nid yw Llais yn galw am lawdriniaeth i ailgychwyn lle byddai'n anniogel. Ein rôl yw sicrhau bod y bobl yr effeithir arnynt yn cael eu clywed, a'u trin yn deg, tra bod yr adolygiad clinigol yn digwydd.
Rydym yn rhannu pryderon pobl ynglŷn â sut y penderfynwyd a'i gynnal y seibiant. Safbwynt Llais yw bod y saib yn newid i wasanaethau, a bod y cyflymder y gweithredodd yr CBCGC yn dangos ei fod yn bodloni'r amodau ar gyfer newid i wasanaethau brys mewn ymateb i bryderon diogelwch cleifion. Y naill ffordd neu'r llall, dylai canllawiau Llywodraeth Cymru ar newid i wasanaethau fod wedi cael eu dilyn. Ni ddigwyddodd hyn. Nid yw'r CBCGC yn derbyn ein barn bod y saib i lawdriniaeth cadarnhau rhywedd yn newid i wasanaethau.
Mae'n bryderus iawn nad oedd lleisiau'r bobl yr effeithiwyd arnynt wrth wraidd penderfyniad a newidiodd eu gofal. Rydym yn parhau i bryderu am y broses o wneud penderfyniadau, ac y llywodraethu o sut y cafodd penderfyniad mor bwysig ei wneud a'i gyflawni, a byddwn yn codi'r pryderon hyn gyda'r CBCGC.
Mey na dau fis yn ddiweddarach, mae rhai pobl yn parhau i fod yn flin iawn, grac, yn ofidus ac yn ddryslyd, oherwydd nid yw'r mwyafrif yn gwybod pryd y bydd yr adolygiad yn cysylltu â nhw. Mae ein gofynion yn canolbwyntio ar yr hyn a fyddai'n helpu pobl nawr: gwybod ble maen nhw'n sefyll, cael eu cefnogi wrth iddynt aros, cymryd rhan yn yr adolygiad clinigol yn hyderus, a chael dweud eu dweud yn yr hyn sy'n digwydd nesaf.