Ymateb Llais i'r Papur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol Llywodraeth Cymru
Gan dynnu ar yr hyn y mae pobl ledled Cymru yn ei ddweud wrthym drwy ein gwaith ymgysylltu, cynrychiolaeth ac eiriolaeth, mae ein hymateb yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o gymunedau gwledig yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys heriau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, pellter, prinder gweithlu, allgáu digidol, fforddiadwyedd, mynediad at wasanaethau Cymraeg ac argaeledd cymorth lleol.
Mae ein hymateb yn pwysleisio y dylai prawfesur gwledig fod yn fwy nag ymarfer cydymffurfio. Credwn y dylid mesur llwyddiant yn ôl a yw'n arwain at fynediad tecach at wasanaethau, llai o rwystrau i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a phenderfyniadau sy'n adlewyrchu'n well realiti bywyd bob dydd. Mae Llais hefyd yn galw am roi profiadau byw wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ynghyd â mwy o dryloywder ac atebolrwydd ynghylch sut mae barn pobl wedi dylanwadu ar ganlyniadau.
Mae'r ymateb yn cynnwys nifer o argymhellion i helpu i sicrhau bod lleisiau cymunedau gwledig yn cael eu clywed, eu hystyried a'u cefnogi wrth gynllunio polisïau a gwasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol.