Cyfarfodydd bwrdd

Rydym am i bobl gymryd cymaint o ran â phosibl yn Llais ac felly rydym yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, y gall unrhyw un ymuno â nhw, yn bersonol neu ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Wrth ddewis ble rydym yn cynnal ein cyfarfodydd, byddwn yn ystyried safonau mynediad a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu mynychu’n bersonol os dymunant.  

Bydd lleoliad a manylion pob cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn cael eu rhestru isod cyn gynted ag y byddant yn hysbys, cliciwch ar y dyddiadau isod i gael rhagor o fanylion am bob dyddiad.

Mae dwy ffordd y gallwch chi fynychu cyfarfod Bwrdd naill ai'n bersonol neu ar-lein trwy Zoom. 

Bydd cyfarfod nesaf ein Bwrdd ar 21 Hydref 2026.

21 Hydref 2026 - Lleoliad i'w gadarnhau
27 Ionawr 2027 - Lleoliad i'w gadarnhau
17 Mawrth 2027 - Lleoliad i'w gadarnhau

Rhowch wybod i ni o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu'n bersonol ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio [email protected].

Rhowch wybod i ni hefyd o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu ar-lein trwy Zoom, ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw.

Gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy e-bostio eich enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt a sefydliad os yn berthnasol i [email protected]. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn dolen Zoom trwy e-bost i fynychu'r cyfarfod.

Bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau ym mhob un o’n cyfarfodydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech i’r Bwrdd eu hateb, gofynnwn i chi eu cyflwyno’n ysgrifenedig i [email protected] erbyn canol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod.

Bydd agenda a phapurau pob un o gyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cynnwys ar y wefan isod ac yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y rhain ar gael dim hwyrach na 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

Os hoffech gael papurau’r Bwrdd mewn unrhyw iaith arall, cysylltwch â ni drwy e-bost [email protected].

Rydym yn frwd dros wneud ein gweithgareddau yn hygyrch i gynifer o bobl ag y gallwn, gan gynnwys gwaith ein Bwrdd. Fel Llais mae gennym gyfle i wneud pethau’n wahanol, felly rydym bob amser yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu ein gweithgareddau Bwrdd i’w gwneud mor agored a thryloyw â phosibl (gan gynnwys beth sy’n digwydd yn ein cyfarfodydd). Gwyddom fod hygyrchedd yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl ag anghenion gwahanol. Nid oes un dull sy'n addas i bawb. Dyma pam rydym yn gofyn i bobl ddweud wrthym sut y maent am weithio gyda ni, a hoffem glywed gennych am y ffordd orau i ni gyfathrebu ein cyfarfodydd Bwrdd.

Os oes gennych syniad, rhowch wybod i ni beth yw eich barn. Neu e-bostiwch [email protected].

Mae’r safbwyntiau a’r profiadau y mae pobl wedi’u rhannu â ni yn cael eu trafod a gwneir penderfyniadau am wahanol agweddau ar ein gwaith. Mae Llais yn sicrhau bod cyfrinachedd unigolion yn cael ei gynnal bob amser. 

  • 20 Mai 2026 - Llandrindod Wells
  • 2​5 Mawrth 2026 - 9:30yb - 4:00yh - Swyddfa Llais, Castell nedd Port Talbot ac Abertawe, Port Talbot
  • 2​8 Ionawr 2026 - 10:00am - 2:00pm - wedi'i ganslo.
  • 19 Tachwedd 2025 - 9:30am - 3:00pm -  Tramshed, Caerdydd
  • 5 Tachwedd 2025 - 9:30am - 10:30am - Cyfarfod Ychwanegol o'r Bwrdd - Sesiwn Zoom ar-lein
  • 24 Medi 2025 - 10:00 - 14:00 - Holiday Inn, The Coldra, Casnewydd, NP18 2YG
  • 28 Gorffennaf 2025 - 09:30 - 15:15 - Gwesty Ramada Plaza, Wrecsam. LL13 7YH
  • 21 Mai 2025 - 10:00 - 14:00 - Adeiladau Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
  • 26 Mawrth 2025 - 5:00-6:00yp Future Inn, Bae Caerdydd
  • 22 Ionawr 2025 - 10:00 - 14:00 - Gwent
  • 18 Rhagfyr 2024 - 09:15 - 09:45yb  - Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Ychwanegol i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, Holiday Inn Canol Dinas, Caerdydd - Linc Zoom
  • 25 Medi 2024 - 09:00 - 14:00 - Gwesty'r Metropole, Temple St, Llandrindod LD1 5DY
  • 24 Gorffennaf 2024 - 10:00 - 14:00 - Ty Newydd Country Hotel, Penderyn Rd, Hirwaun, Aberdare CF44 9SX
  • 22 Ebrill - 11:00 - 12:00 - Dros Zoom
  • 25 Ebrill 2024 - 10:00 - 15:00 - Canolfan Genedlaethol Chwareon Cymru, Caerdydd
  • 24 Ionawr 2024 -  10:00 - 13:40  - Gwesty Traeth Aberavon
  • 22 Tachwedd 2023 - 14:00-14:30 - Ar-lein
  • 25 Hydref 2023 - 10:00-13:15 - Guildhall, Aberteifi
  • 26 Gorffennaf 2023 - 10:00-14:00 - Venue Cymru, Llandudno
  • 28 Ebrill 2023 - 10:00-14:30 - Ar-lein