Newyddion

Dweud Eich Dweud: Sgwrs Genedlaethol i Ail-ddychmygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Llais yn lansio sgwrs genedlaethol newydd beiddgar i ail-ddychmygu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac maen nhw eisiau clywed gennych chi. Gyda gwasanaethau dan bwysau cynyddol, mae'r Gofal Iechyd a Chymdeithasol a Garem yn gwahodd pobl ledled Cymru i rannu'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae'n ymwneud â chreu perthynas decach a mwy cytbwys rhwng pobl a'r gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o ran gwasanaethau gofal.

Nod y prosiect yw:

  • Gwneud hawliau a chyfrifoldebau o amgylch gofal yn gliriach.
  • Helpu pobl a gwasanaethau i ddeall beth i'w ddisgwyl wrth ei gilydd.
  • Grymuso pawb — pobl a gweithwyr proffesiynol — i lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. 

Gall pobl gymryd rhan drwy arolwg ar-lein, drwy gysylltu â Llais yn uniongyrchol, neu drwy ymuno ag un o nifer o ddigwyddiadau a sesiynau grŵp y bydd Llais yn eu cynnal ledled Cymru. Bydd sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cynnal eu sgyrsiau eu hunain i gasglu adborth.

Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:

“Bob dydd, rydyn ni’n clywed gan bobl sy’n teimlo ar goll yn y system — yn aros mewn poen, yn gofalu heb gefnogaeth, neu’n ansicr ble i droi.”  

“Ond rydyn ni hefyd yn gweld beth sy’n gweithio: staff ymroddedig, syniadau arloesol, a chymunedau’n dod at ei gilydd. Mae’r sgwrs hon yn ymwneud â sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed, a llunio dyfodol gwell.”

Bydd sgwrs genedlaethol 'Y Gofal Iechyd a Chymdeithasol a Garem yn digwydd dros y misoedd nesaf, gyda gweithgareddau ymgysylltu yn dod i ben ddiwedd mis Medi . Yn dilyn hyn, cyhoeddir adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r canfyddiadau, ynghyd â chyfres o argymhellion a fframwaith arfaethedig i'w gwneud hi'n haws i bobl ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais:

“Mae hyn yn ymwneud â mwy na gwrando, mae'n ymwneud â gweithredu,” 

“Rydym am greu system sy'n adlewyrchu anghenion gwirioneddol a blaenoriaethau pobl. Mae pob llais yn bwysig.”

Mae'r sgwrs yn rhedeg tan 30 Medi 2025 , ac ar ôl hynny bydd Llais yn cyhoeddi adroddiad gyda chanfyddiadau allweddol, argymhellion, a fframwaith ar gyfer newid.

 

Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, ewch i

www.llaiswales.org/wewant