Newyddion

Defnyddiwch eich arbenigedd ym maes gweithlu a llywodraethu i wneud gwahaniaeth ledled Cymru

Mae Llais yn chwilio am Aelod Annibynnol i ymuno â'n Pwyllgor y Gweithlu, Tâl ac Amodau Gwasanaeth.

Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweithlu, adnoddau dynol neu ddatblygu sefydliadol gyfrannu cyngor annibynnol, craffu a her adeiladol, gan helpu i gryfhau llywodraethu a chefnogi ein cenhadaeth i sicrhau bod lleisiau pobl yn helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:

  • Profiad ar lefel uwch ym maes gweithlu, adnoddau dynol neu ddatblygu sefydliadol yn y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector
  • Profiad o drefniadau llywodraethu byrddau neu bwyllgorau
  • Arbenigedd mewn strategaethau pobl a datblygu sefydliadol
  • Y gallu i ddarparu barn annibynnol a her gefnogol ac adeiladol
  • Gwybodaeth a phrofiad o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Manylion y rôl

  • £198 y dydd ynghyd â threuliau teithio rhesymol
  • Tua 10 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys pedwar cyfarfod pwyllgor ac amser paratoi
  • Penodiad cychwynnol am flwyddyn, gyda'r posibilrwydd o estyniad am ail flwyddyn

Yn Llais, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned ac yn annog yn arbennig unigolion y mae eu cefndiroedd a'u profiadau'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru i ymgeisio.

I fynegi diddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth, cliciwch y botwm isod:

Mwy o wybodaeth

⏰ Dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb: 9 Medi 2026