Partneriaethau

Rydym am weithio mewn partneriaeth â phob sefydliad sydd hefyd yn canolbwyntio ar greu Cymru iachach

Tra'n parhau i fod yn annibynnol, rydym hefyd am weithio ar y cyd â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn dod â data cyfoethog iddynt, gan gynnwys safbwyntiau, pryderon a phrofiadau go iawn pobl, gan rannu’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio i’w helpu yn yr ymgyrch i wella gwasanaethau.

Byddwn hefyd yn cyflwyno sylwadau i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol; cyfrannu at grwpiau a byrddau; ymateb i ymgynghoriadau ffurfiol a chyhoeddi adroddiadau ar y materion sydd bwysicaf i bobl Cymru.

Rydym hefyd am weithio gyda mentrau cenedlaethol a chyda sefydliadau eraill, gan gynnwys grwpiau cymunedol, sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn arbennig o awyddus i weithio gyda'r rhai a all ein helpu i glywed gan y rhai na chlywir eu lleisiau yn aml.

Gweithio efo ni

Os ydych yn meddwl y dylem fod yn gweithio gyda chi ac nid ydym, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni