Newyddion

Digon o aros: Mae Llais eisiau gweithredu ar fyrder ar gwasanaethau gofal brys yng Nghymru

Mae Llais yn bodoli i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl a chymunedau ledled Cymru yn cael eu clywed ac yn cael eu gweithredu arno ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gennym ddyletswydd statudol i gynrychioli buddiannau'r cyhoedd a chodi’n llais pan nad yw pethau'n iawn. Drwy 42 o ymweliadau ag ysbytai, unedau mân anafiadau ac asesiadau meddygol, rydym wedi gwrando ar dros 700 o bobl. Darllenwch ein Datganiad Safwbwynt a'r Adroddiad Llawn

Mae’r neges yn glir: mae gofal brys yn methu gormod o bobl, ac mae newid yn rhy araf. 

Er gwaethaf strategaethau, cynlluniau, ymrwymiadau a phrosiectau lluosog, er enghraifft y rhai a nodir yn Cymru Iachach, y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng, a chyflwyniad y Ddyletswydd Ansawdd, nid yw pobl yn gweld gwelliannau gwirioneddol.

Rhaid peidio â derbyn yr argyfwng hwn fel “dyma sut mae pethau.”

Yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym 

Mae pobl ledled Cymru wedi rhannu eu profiadau, gan amlygu bylchau difrifol mewn gofal:

  • Aros hir – roedd llawer yn aros 8-24 awr, yn aml mewn coridorau gorlawn. Dywedodd un person, “Fe wnes i aros drwy'r nos mewn coridor gyda goleuadau llachar a sŵn. Roeddwn i’n teimlo nad oedd neb yn gofalu amdanaf.” 
  • Ardaloedd gorlawn ac anhygyrch – Nid yw llawer o ardaloedd aros yn diwallu anghenion pobl anabl, pobl niwroamrywiol, neu blant. Rhannodd rhiant, “Roedd fy mab awtistig yn gweld yr ystafell aros yn annioddefol. Nid oedd unman yn dawel.” 
  • Oedi ambiwlansau a phroblemau mynediad – Trefnodd pobl eu cludiant eu hunain oherwydd oedi mewn ambiwlans, yn wynebu anhrefn parcio ac arwyddion aneglur. Dywedodd un person, “Doedd gen i ddim dewis ond gyrru fy hun, er fy mod yn teimlo’n ofnadwy.” 
  • Straen ar staff - Mae pobl yn gwerthfawrogi ymroddiad staff y GIG ond yn gweld eu bod yn cael eu gorlethu a'u hymestyn y tu hwnt i allu. Dywedodd un person, “Maen nhw’n gwneud eu gorau, ond mae’n amlwg nad oes ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth.” 
  • Pan fydd pobl yn cael eu gweld, mae pobl yn teimlo bod eu gofal yn dda ar y cyfan. Dywedodd llawer o bobl wrthym eu bod yn derbyn gofal da ar ôl iddynt gael eu gweld gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, mae'r arosiadau hir, diffyg cyfathrebu, a gorlenwi yn gwneud y profiad cyffredinol yn straenus ac yn rhwystredig, ac yn rhy aml yn teimlo’n anniogel. 

Rhaid i Gymru weithredu nawr  

Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:  

“Mae’r lleisiau rydyn ni wedi’u clywed yn rhoi darlun llwm o system sydd dan bwysau aruthrol. Er ein bod yn canmol ymroddiad staff gofal iechyd, maent yn gweithio mewn system nad yw'n rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt hwy na'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Rhaid i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru weithredu nawr i droi strategaethau a chynlluniau yn newid ystyrlon. Mae gwelliannau ar unwaith yn hanfodol i leddfu’r argyfwng presennol, ond mae angen rhaglen weithredu glir arnom hefyd i sicrhau bod gofal brys yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Amser i weithredu – os nad nawr, pryd?

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais:

“Mae gofal brys yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt argyfwng.

Mae’r hyn a glywsom gan gleifion a staff ledled y wlad yn amlygu system sydd dan bwysau eithafol ac anghynaliadwy, lle mae lles cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn perygl sylweddol.

Mae pobl ledled Cymru yn gofyn am ofal amserol, urddasol, ac nid ydynt yn haeddu dim llai. Mae angen atebion brys ar bobl: beth fydd yn gwella pethau, a phwy fydd yn sicrhau bod newid gwirioneddol yn digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi nodi egwyddorion cryf, ond ni fydd egwyddorion yn unig yn gwella system mewn argyfwng. Nawr yw'r amser i weithredu. Mae arweinyddiaeth a chydweithio cryf yn hanfodol i sicrhau newid gwirioneddol i bobl a chymunedau. "

Nawr yw'r amser i weithredu. Rhaid cynnal sgwrs genedlaethol, sy’n cynnwys cleifion a gweithwyr proffesiynol, er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder yn y GIG. Nid yw'r sefyllfa yn gofyn dim llai.

Beth sydd angen ei newid? 

Mae Llais yn galw am weithredu brys—nid mwy o gynlluniau, ond arweiniad a chyflawniad clir.

Canolbwyntio ar weithredu cydgysylltiedig ac atebolrwydd 

Defnyddio partneriaethau sy'n bodoli eisoes, a mecanweithiau goruchwylio ac uwchgyfeirio i ysgogi gwelliannau gwirioneddol.

Gwneud gyfrifoldebau’n glir i bawb—pwy sy’n gwneud yn siŵr bod gofal brys yn gwella, a beth sy’n digwydd pan na chaiff safonau eu cyrraedd.

Lleihau amseroedd aros a gorlenwi 

Gwella cydgysylltu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i atal tagfeydd yn y system.

Sicrhau fod ardaloedd gofal brys yn hygyrch i bawb, ac yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion unigol pobl.

Blaenoriaethu urddas a chysur 

Sicrhau fod pawb yn cael gofal a thriniaeth mewn ardaloedd priodol ac urddasol.

Darparu a chynnal amgylcheddau glân, diogel a chyfforddus sy'n parchu urddas pobl.

Gwneud y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad pobl, fel bwyd a diodydd a chadeiriau cyfforddus.

Gwreiddio lleisiau pobl mewn newid 

Defnyddio adborth amser real gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau i ysgogi camau gweithredu a gwelliannau parhaus.

Cyflwyno mesurau perfformiad newydd sy'n canolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i bobl sydd angen gofal brys.

Sicrhau bod data gofal brys ar brofiadau a chanlyniadau pobl ar gael i'r cyhoedd fel ei bod yn hawdd gweld yr hyn y mae pobl yn ei ddweud a pha gamau a gymerir mewn ymateb.

Rhannu’r hyn sy'n gweithio 

Rhannu a gweithredu’r hyn sy’n gweithio’n dda i bobl ledled Cymru, nid mewn byrddau iechyd unigol yn unig.

Symud ymlaen gyda dull "cyfiawnhau neu fabwysiadu", fel bod newidiadau sy'n gwneud pethau'n well i bobl yn digwydd yn gyflymach ledled Cymru.

Darllenwch ein Datganiad Safwbwynt a'r Adroddiad Llawn