Cyhoeddiad
Llais Powys - Crynodeb Gweithredol - Ymgysylltu Llanidloes
ADRODDIAD 11 Mehefin 2024
Yn ystod mis Chwefror 2024, bu Llais Powys yn ymgysylltu â chymuned Llanidloes a’r cyffiniau, i ddeall profiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu megis arolygon, ymuno â grwpiau a sefydliadau amrywiol ar gyfer trafodaeth wyneb yn wyneb, ymweld â safleoedd lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal a siarad â phobl mewn digwyddiadau cymunedol. Buom yn siarad â phobl o wahanol oedrannau a chyda gwahanol anghenion iechyd a gofal.
Crynodeb Gweithredol Llanidloes Cymraeg.pdf