Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn gosod ein strategaeth, ac yn darparu craffu, goruchwylio a llywodraethu ar draws ein holl waith

Fel Bwrdd rydym yn angerddol bod caiff ein gwaith ei lywio gan y bobl sy’n byw yng Nghymru.

Rydym yn dal y tîm gweithredol yn atebol am gyflawni ein nodau, ein hamcanion a’n blaenoriaethau er mwyn bodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 a’n dyletswyddau ehangach yn y sector cyhoeddus.

Rydym yn gweithio’n uniongyrchol a gydag eraill i nodi blaenoriaethau'r bobl.

Rydym am fod yn sefydliad lle mae cynwysoldeb, uniondeb, tosturi a pharch at ein gilydd yn llywio popeth a wnawn. Byddwn yn gweithio gyda'n pobl i ddatblygu'r dull hwn.

Rydym yn canolbwyntio ar feithrin perthynas ag ystod eang o bobl, grwpiau cynrychioliadol cymunedol a sefydliadau fel y gallwn gydweithio i ddefnyddio ein hadnoddau ar y cyd i wneud gwahaniaeth.

Mae’n hanfodol bwysig i ni ein bod yn cynnal ein hannibyniaeth er mwyn cyfleu barn pobl a chymunedau Cymru yn fwyaf effeithiol.

Aelodau Bwrdd Llais