Gwrando ar Bobl - system gwynion newydd y GIG

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y gofal iechyd gan y GIG rydych wedi'i dderbyn neu'r gwasanaethau rydych wedi'u defnyddio, gallwn ni helpu

Mae Gwrando ar Bobl yn system gwynion newydd GIG Cymru, a gynlluniwyd i sicrhau bod pryderon cleifion yn cael eu clywed, eu trin â thosturi a'u defnyddio i wella gwasanaethau.

Mae 'Listening to People' (Gwrando ar Bobl) yn system gwynion newydd GIG Cymru, a gynlluniwyd i sicrhau bod pryderon cleifion yn cael eu clywed, eu trin â thosturi a'u defnyddio i wella gwasanaethau.

Mae'r newidiadau hyn yn golygu:

  • Bydd pob unigolyn sy'n cyflwyno cwyn yn cael y cyfle i siarad â rhywun yn nhîm y gwasanaeth GIG amdani ar y dechrau, mewn 'trafodaeth wrando'. Gall y drafodaeth hon ddigwydd dros y ffôn, drwy Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb.
  • Os gall sefydliad y GIG wneud hynny, ac os yw'n rhan o'r canlyniad rydych chi'n ei geisio, byddant yn ceisio datrys eich cwyn yn gynnar drwy gamau Datrys yn Gynnar y cytunwyd arnynt. Dylid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod i gydnabod eich cwyn.
  • Os nad yw'n bosibl datrys y gwyn yn gynnar, bydd sefydliad y GIG yn ymchwilio iddi'n ffurfiol o fewn amserlen y cytunwyd arni ymlaen llaw o 30, 60, 90 neu uchafswm o 120 diwrnod.

Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar y system newydd ar gael yma.

Sut gallwn ni helpu

Mae gennym eiriolwyr cwynion ledled Cymru sy'n cynnig:

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch proses gwynion y GIG. Cymorth i gyflwyno eich cwyn i sefydliad y GIG.

Arweiniad a chymorth ar sut i eirioli drosoch eich hun drwy gydol y broses. Cymorth neu bresenoldeb yn y Trafodaethau Gwrando

ac mewn cyfarfodydd eraill sy'n ymwneud â chwynion gyda sefydliad y GIG.

Cymorth i'ch helpu i ddeall yr ymateb i'ch cwyn, ac i fyfyrio a phenderfynu ar eich camau nesaf.

Cymorth i gyflwyno unrhyw bryderon sy'n weddill i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae angen i chi gyflwyno'r gwyn i wasanaeth y GIG o fewn 12 mis i ddod yn ymwybodol o'r mater neu o fewn 12 mis i'r mater ddigwydd.

Ni allwch gwyno am rywbeth rydych chi eisoes wedi cwyno'n ffurfiol amdano gyda gwasanaeth y GIG.

Nid rôl Llais yw ymchwilio i'r gwyn, ac ni allwn warantu y cewch y canlyniad rydych chi ei eisiau. Byddwn yn eich helpu i lywio'r broses gwynion drwy ddarparu'r wybodaeth gywir i chi, fel y gallwch wneud eich penderfyniadau eich hun ynghylch beth i'w wneud nesaf. Rydym yma i helpu i gyfleu eich barn a'ch llais i sefydliad y GIG.

Ffurflen atgyfeirio proffesiynol

Os oes gennych gleient yr hoffech ei atgyfeirio, llenwch ein ffurflen atgyfeirio proffesiynol ac anfonwch hi drwy e-bost at eich tîm rhanbarthol.

Llais - Taflen system cwynion GIG Cymru 'Gwrando ar Bobl'

Cysylltwch â'ch tîm lleol am ragor o wybodaeth neu gymorth

Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi'n eu cefnogi, gŵyn yr hoffech gael cymorth gyda hi, neu os hoffech ragor o wybodaeth am broses gwynion 'Listening to People', gall ein timau lleol drafod eich pryder a'r math o gymorth sydd ei angen arnoch.

  • Caerdydd a’r Fro

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol Caerdydd, Bro Morgannwg

  • Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

  • Cwm Taf Morgannwg

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful

  • Gogledd Cymru

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Dinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

  • Gorllewin Cymru

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro

  • Gwent

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent

  • Powys

    Yn cwmpasu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol: Powys