Digwyddiad
Bore Coffi Cymdeithas Byddar Prydain
14 Tachwedd 2026
10:00 - 12:00
Chapter Arts Centre,
Canton,
Cardiff
Bydd Llais Caerdydd a'r Fro yn ymweld â Bore Coffi Cymdeithas Byddar Prydain ym mis Tachwedd i godi ymwybyddiaeth o'n rôl a'n gwasanaethau a chlywed yn uniongyrchol gan bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym eisiau deall rhwystrau i fynediad, casglu barn ar wasanaethau lleol, a sicrhau bod lleisiau Byddar yn cael eu clywed. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhedeg trwy bopeth a wnawn, gan helpu i hyrwyddo gwasanaethau hygyrch, cynhwysol a theg i bawb.