Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus - Pen-y-bont ar Ogwr 21/10/2026
Gwesty'r Best Western Premier Heronston,
Heol Ewenni,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF35 5AW
Hoffech chi glywed mwy am waith Llais a sut rydym yn helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ledled Cymru?
Mae ein Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus nesaf yn cael ei gynnal yn fuan, ac mae croeso i chi ymuno â ni.
Mae Cyfarfodydd Bwrdd Cyhoeddus yn gyfle i weld sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, clywed diweddariadau am ein gwaith ledled Cymru, a dysgu mwy am y materion sydd bwysicaf i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maent hefyd yn ein helpu i fod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol i'r cyhoedd rydym yn ei wasanaethu.
Yn y cyfarfod, bydd Aelodau'r Bwrdd ac uwch arweinwyr yn trafod datblygiadau allweddol ar draws y sefydliad, yn adolygu cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau, ac yn ystyried materion sy'n effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru.
P'un a ydych wedi rhannu eich profiadau gyda ni o'r blaen, yn dilyn ein gwaith, neu'n dymuno dysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu.
Sut i fynychu
Mae'r cyfarfod yn agored i'r cyhoedd, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw.
📅 Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Hydref 2026
🕐 Amser: O 9:30am ymlaen
📍 Lleoliad: Gwesty Best Western Premier Heronston, Heol Ewenny, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5AW, neu ar-lein
I gofrestru eich presenoldeb a chael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: governance@llaiscymru.org
Papurau'r Bwrdd ar gyfer y cyfarfod
Papurau Bwrdd - Cyfarfod Cyhoeddus 21/10/26 | LLAIS
Edrychwn ymlaen at eich croesawu a rhannu mwy am sut mae eich profiadau yn helpu i lywio gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.