Cyhoeddiad

Bwyd a Diod mewn Ysbytai Cwm Taf Morgannwg

Mae bwyd a diod ysbyty yn rhan hanfodol o ofal cleifion mewnol.

Mae prydau maethlon a hydradiad digonol yn helpu cleifion i adsefydlu a gwella.

Yn ystod ein gweithgareddau ymgysylltu haf 2023 a thrwy ein gwasanaeth eiriolaeth, clywsom fod darpariaeth bwyd a diod mewn ysbytai yn ardal Cwm Taf Morgannwg yn destun pryder.