Cyhoeddiad
Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe: lleisiau ifanc, dyfodol gwell - fforwm urddas mislif
Ym mis Medi 2026, cyfarfu Llais â phobl ifanc o Grŵp Hawliau HOPE yng Nghastell-nedd Port Talbot i wrando ar eu syniadau, eu barn a'u profiadau. Mae'r grŵp HOPE ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'n rhoi cyfle iddynt rannu eu syniadau, trafod pethau sy'n bwysig iddynt, a helpu i wneud gwahaniaeth.
Siaradom â'r bobl ifanc a'r oedolion sy'n eu cefnogi ynghylch y mislif a sut mae'n gallu effeithio ar fywyd bob dydd. Buom yn siarad ynghylch:
Dysgu am y mislif ac iechyd mislif
Cael cymorth gan feddygon a gwasanaethau iechyd eraill
Sut mae'r mislif yn gallu effeithio ar addysg, teimladau, a gweithgareddau dyddiol
Bu'r bobl ifanc yn rhannu eu profiadau eu hunain ac yn dweud wrthym am yr
hyn sy'n bwysig iddynt.
Lleisiau ifanc, dyfodol gwell: fforwm urddas mislif