Cyhoeddiad

Rhanbarth Gorllewin Cymru - Gwasanaethau wroleg yng Ngorllewin Cymru - Medi 2025

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi clywed pryderon cynyddol am wasanaethau wroleg yng Ngorllewin Cymru. Er mwyn deall beth mae hyn yn ei olygu i chi, fe wnaethon ni lansio prosiect i wrando yn uniongyrchol ar gleifion - boed hynny mewn clinigau neu ysbytai. Mae ein nod yn syml: dysgu beth sy'n gweithio'n dda a lle gallai pethau wella, fel bod gwasanaethau'n wirioneddol diwallu eich anghenion.

Am bythefnos ym mis Hydref 2025, buom yn ymweld â wardiau, adrannau a chlinigau wroleg ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.