Sbotolau ar iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yng Nghymru
Mae Llais wedi bod yn clywed gan lawer o bobl mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru sydd wedi rhannu'r hyn maen nhw'n ei weld fel cryfderau ond hefyd yr anawsterau o ran cael mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda thua 1 o bob 3 o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu fel rhai gwledig, mae'n bwysig bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed a bod gweithredu arnynt er mwyn osgoi anghydraddoldebau iechyd pellach.