Cyhoeddiad

Troedio Tonnau - Adroddiad Llais Gogledd Cymru

Cynhaliwyd noson ‘Be Gymri Di?’, Troedio Tonnau, ar nos Iau, y 26ain o Fawrth, yn Jac Do, Caernarfon, dan nawdd Llais ac mewn cydweithrediad â Mantell Gwynedd a BLAS, Pontio. Fel rhan o’r noson, cafwyd setiau byw gan y comediwyr Caryl Burke a Hywel Pitts, yn ogystal â bwyd gan gwmni pitsa lleol, Tân. Bwriad y noson oedd creu gofod diogel a chreadigol ar gyfer pobl ifainc, 18-35 oed, sy’n byw gyda galar, gan ddefnyddio comedi a bwyd am ddim fel ffordd o greu awyrgylch hamddenol, ac annog pobl i fynychu’r digwyddiad. Roedd bwriad hefyd casglu gwybodaeth gan y mynychwyr ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn y gymuned, eu parodrwydd i drafod eu galar a’r rhwystrau oedd yn eu hatal, a’u barn ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg.