06.02.26 Diweddariad - Cadw Chi’n Wybodus: Adolygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gadw’r cyhoedd yn wybodus wrth i’r gwaith pwysig hwn symud ymlaen.
Fel y gwnaethom ymrwymo fis Tachwedd diwethaf, rydym am sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Pwyllgor Cyd-Gomisiynu GIG Cymru (NWJCC) mewn perthynas ag EMRTS.
Mae hwn yn bwnc sy’n amlwg yn bwysig i lawer o gymunedau, ac mae’n gwbl ddealladwy bod pobl eisiau tryloywder ynghylch y camau nesaf a’r cyfleoedd i gymryd rhan.
Cyfarfu’r NWJCC ddiwedd y mis diwethaf ac mae bellach wedi cyhoeddi diweddariad sy’n ymwneud â Argymhelliad 4.
Darllenwch eu diweddariad llawn:
Diweddariad ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys
I ddeall safbwynt Llais, a beth mae Argymhelliad 4 yn ei olygu yn ymarferol, cliciwch isod:
Cadw chi’n wybodus: Adolygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)