Newyddion

Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Eisiau gwybod mwy am yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

Ymunwch â'u gweminar i helpu i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe

Bydd tîm yr Adolygiad yn cynnal dwy gweminar ddydd Mawrth 13 Ionawr  rhwng: 9:30yb – 10:15yb a 7:30yh – 8:30yh

Yn ystod y gweminarau, bydd y tîm Adolygu yn esbonio’r broses Adolygu, yn trafod sut y gallwch rannu eich straeon, darparu mewnbwn a chymryd rhan, er mwyn helpu i lunio dyfodol gofal mamolaeth a newyddenedigol. Bydd amser hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau.

9:30yb – 10:15yb gall pobl gofrestru yma

7:30yh – 8:30yh gall pobl gofrestru yma