Newyddion

Mae Llais yn chwilio am Ddirprwy Gadeirydd

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â chysylltiadau amlwg â chymunedau ledled Cymru, ond hefyd mewn unigolion a allai fod â chefndir, sgiliau neu brofiad mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol:

Cynhwysiant digidol mewn iechyd a gofal cymdeithasol 

  • Rheoli newid 
  • Gwydnwch sefydliadol 
  • Rheoli adnoddau dynol a’r gweithlu 
  • Cefndir mewn gofal cymdeithasol 
  • Gofal yn y trydydd sector Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt y profiad penodol hwn ond a allai fod â gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy.

Rhaid i'r Dirprwy Gadeirydd allu ymrwymo i roi 4 diwrnod y mis i Llais a gallu dangos ei fod yn gallu cydbwyso blaenoriaethau sy'n gwrthdaro ag ymrwymiadau a rolau eraill.

Bydd angen i'r Dirprwy Gadeirydd wneud y canlynol:

  • Darparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a gweladwy, yn unol â'r hyn y cytunir arno gyda'r Cadeirydd, yn fewnol drwy'r Bwrdd a'i bwyllgorau ac yn allanol drwy gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid yn y gymuned ehangach; 
  • Dirprwyo ar ran y Cadeirydd, arwain y Bwrdd yn ei absenoldeb a chyflawni swyddogaethau ychwanegol yn unol â'r hyn y cytunir arno gyda'r Cadeirydd.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch y botwm isod:

Disgrifiad swydd Dirprwy Cadeirydd