Newyddion

Mae Llais yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd

Mae Llais wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Seithfed Senedd er mwyn helpu i lywio ei flaenoriaethau ar gyfer y tymor newydd. Gan dynnu ar brofiadau pobl ledled Cymru o iechyd a gofal cymdeithasol, mae ein cyflwyniad yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau cydgysylltiedig, atebolrwydd clir, cynnwys y cyhoedd yn ystyrlon, a sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiadau pob dydd pobl.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn annog y Pwyllgor i ystyried sut mae pobl yn profi gofal ar draws ffiniau sefydliadol, yr heriau y mae llawer yn eu hwynebu wrth lywio gwasanaethau, a’r angen i sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, gofalwyr a chymunedau yn parhau'n ganolog i waith craffu a gwneud penderfyniadau. 

Yn Llais, credwn fod profiadau pobl yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r hyn sy'n gweithio'n dda ac i'r meysydd lle mae angen newid. Drwy ein gwaith ymgysylltu, eiriolaeth a chefnogi cwynion, byddwn yn parhau i rannu'r hyn sy'n bwysig i bobl er mwyn helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell ledled Cymru.

Darllenwch ein cyflwyniad llawn yma